Criwiau'n parhau ar safle tân ailgylchu fore Iau

  • Cyhoeddwyd
Tan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd diffoddwyr yn parhau ar y safle er mwyn sicrhau nad yw'r fflamau'n ailgynnau

Mae criwiau'n parhau ar safle canolfan ailgylchu yn Sir Caerffili yn dilyn tân yno ddydd Mercher.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod tair injan a sawl tanc dŵr wedi eu hanfon i'r digwyddiad ar Stad Ddiwydiannol Penallta.

Ychwanegon nhw fod tua 50 o ddiffoddwyr wedi mynychu'r digwyddiad, oedd yn ymwneud â thua 200 tunnell o fetel oedd ar dân.

Erbyn hyn mae'r tân yn SL Recycling dan reolaeth, ond bydd diffoddwyr yn parhau ar y safle er mwyn sicrhau nad yw'r fflamau'n ailgynnau.

Mae'r gwasanaeth tân yn parhau i annog trigolion lleol i gadw eu drysau a ffenestri ynghau am y tro oherwydd y mwg sydd yn yr ardal.

Ffynhonnell y llun, _Dunedal
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y digwyddiad yn ymwneud â thua 200 tunnell o fetel oedd ar dân

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaeth tân yn parhau i annog trigolion lleol i gadw eu drysau a ffenestri ynghau am y tro