89 yn colli eu swyddi mewn ffatri ger Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Twr dŵr ar dafle 3M ym Mhenlle'r-gaerFfynhonnell y llun, Nigel Davies | Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffatri 3M yn cynhyrchu nwyddau ar gyfer y diwydiant gofal personol a rhannau ceir

Mae cwmni technoleg 3M wedi cadarnhau y bydd 89 o'i weithwyr yn Sir Abertawe yn colli eu swyddi yn dilyn cyfnod ymgynghorol.

Bydd y cwmni'n symud yr holl waith sy'n cael ei wneud ym Mhenlle'r-gaer ger Gorseinon i safleoedd eraill ar draws y byd dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys Bangor yng Ngogledd Iwerddon.

Dywed y cwmni Americanaidd ei fod yn "gresynu" bod angen diswyddo gweithwyr ond mai dyna'r "unig ffordd ymlaen o ran dyfodol y busnes".

Bydd y gweithwyr dan sylw'n cael "ystod o wasanaethau cefnogaeth" i gael cyfleoedd gwaith newydd.

Fe ddechreuodd y cwmni gyfnod ymgynghori o 45 diwrnod gyda staff ym mis Gorffennaf, gan amlinellu cynigion i gau'r safle.

Y safle 'wedi ei danddefnyddio'

Mae'r safle ym Mhenlle'r-gaer yn cynhyrchu ystod o bethau ar gyfer "y diwydiant gofal personol, ynghyd â'r farchnad am gydrannau i gerbydau yn dilyn gwrthdrawiad, a chanolfannau trwsio cerbydau".

Wrth gadarnhau ddydd Gwener bod y cyfnod ymgynghori ar ben, dywedodd y cwmni bod newidiadau o fewn y sectorau hynny wedi effeithio ar y safle, sy'n mynd trwy gyfnod o gael ei "danddefnyddio".

"Edrychwyd ar strategaethau amgen ac fe gadarnhawyd bod 89 o swyddi'n cau," meddai Lars Hanseid, rheolwr gyfarwyddwr 3M yng ngogledd Ewrop.

"Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad diffuant o ymroddiad a phroffesiynoldeb ein gweithwyr, nid yn unig yn ystod yr ymgynghoriad ond nawr hefyd wrth inni fynd trwy gyfnod pontio.

"Mae'r cwmni'n gresynu colli unrhyw swyddi, ond rydym yn credu mai'r cam yma yw'r unig ffordd ymlaen o ran dyfodol y busnes."

Pynciau cysylltiedig