Glaw, mellt a tharanau i ddilyn y gwres yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd melyn am stormydd o daranau yng Nghymru yn ystod y deuddydd nesaf.
Siroedd y de fydd yn cael eu heffeithio dan y rhybudd cyntaf, sy'n dod i rym am 10:00 ddydd Mercher ac yn para tan 20:00.
Ond fe fydd Cymru gyfan yn gweld tywydd garw dan yr ail rybudd a fydd mewn grym rhwng 11:00 ac 20:00 ddydd Iau.
Daw'r rhybuddion ar ôl i Gymru fwynhau tridiau o dywydd braf iawn, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 28C ddydd Mawrth.
Y siroedd sy'n wynebu'r posibilrwydd o law trwm a mellt ddydd Mercher yw: Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerfyrddin, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Mynwy, Penfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Mae disgwyl y tywydd gwaethaf yn y prynhawn, ac fe allai'r cawodydd achosi 30-50mm o law o fewn tair awr mewn nifer fach o lefydd.
Yn dilyn glaw dros nos, mae disgwyl cawodydd dwysach a stormydd o law taranau ar draws Cymru, yn ogystal â rhannau helaeth o Loegr, o ddiwedd bore Iau cyn iddyn nhw ostegu wrth iddi nosi.
Er bydd y rhan fwyaf o lefydd yn osgoi'r tywydd gwaethaf, mae cawodydd trwm eithriadol yn bosib mewn rhai mannau, gyda'r potensial o 20-30mm o law o fewn awr a hyd at 40mm o fewn dwy awr.
Fe allai'r amodau arwain at lifogydd a thrafferthion i deithwyr.