Prif Weithredwr GIG Cymru i ddod yn brif was sifil

  • Cyhoeddwyd
Andrew Goodall
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Goodall wedi bod yn Brif Weithredwr GIG Cymru ers 2014

Mae'r swyddog a arweiniodd GIG Cymru trwy'r pandemig i ddod yn brif was sifil Cymru.

Bydd Prif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall, yn cymryd yr awenau fel Ysgrifennydd Parhaol ar ôl ymadawiad y Fonesig Shan Morgan Jones.

Bydd yn gyfrifol am 5,000 o staff ac yn brif gynghorydd polisi i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Mae disgwyl i'r Fonesig Shan adael y flwyddyn nesaf, ond nid yw'n glir eto pryd y bydd Mr Goodall yn dechrau yn ei swydd newydd.

"Mae trefniadau yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau parhad arweinyddiaeth i'r GIG yng Nghymru yn ystod yr hydref a'r gaeaf sydd i ddod," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

'Ffigwr blaenllaw'

Yn ystod y pandemig roedd Mr Goodall yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar sut mae GIG Cymru wedi bod ymdopi â'r pandemig trwy gynadleddau i'r wasg ar y teledu.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Mae wedi bod y ffigwr blaenllaw yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru ers blynyddoedd lawer, felly rwy'n croesawu ei benodiad i'r rôl hon yn gynnes."

Mae Dr Goodall wedi bod yn Brif Weithredwr GIG Cymru ers 2014 a cyn hynny roedd yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Pynciau cysylltiedig