Annog pobl i 'stopio am funud a meddwl' cyn ffonio 999
- Cyhoeddwyd
O'r switsfwrdd hen ffasiwn a blychau ffôn coch i ffonau clyfar a GPS - mae swydd Mary Davies o Ynys Môn wedi newid cryn dipyn ers 1967.
Er hynny, yr un ydy ei gwaith yn y bôn, sef ateb galwadau 999 a helpu pobl mewn argyfwng.
A hithau wrthi ers 54 o flynyddoedd, Mrs Davies ydy'r mwyaf profiadol o holl atebwyr galwadau 999 y DU.
Ond mae hi - a'r gwasanaeth - yn delio â mwy o alwadau nag erioed o'r blaen, yn ôl ffigyrau newydd gan BT.
Mae Mrs Davies, sy'n 74 ac o bentref Brynsiencyn, yn annog pobl i "stopio am funud a meddwl" os oes angen y gwasanaethau brys arnyn nhw cyn ffonio.
"Yn y misoedd diwethaf 'ma, mae straen mawr ar yr ambiwlans, a hefyd y police," meddai.
"[Dwi'n] gofyn i bawb stopio am funud a meddwl. Ond os oes 'na rywbeth mawr wedi digwydd - wel, yna [ffoniwch] straight away - achos dyna be' di'r service i fod."
Mewn gyrfa o dros hanner canrif, mae Mrs Davies wedi bod yn dyst i newid mawr. Yn y dyddiau cynnar, roedd weithiau angen tri pherson i ateb galwad 999 a dod o hyd i leoliad yr argyfwng.
"Roedden ni efo'r cords yn ateb ffôn adeg hynny - wrth gwrs, computer ydy o rŵan," meddai. "Ac oedden ni ond yn cymryd galwadau lleol, fel hanner Sir Fôn! Roedd o'n reit ddiddorol, really."
Galwadau di-ri
Bellach, mae canolfan ateb 999 BT yng ngogledd Cymru - na allwn ddatgelu ei lleoliad - yn derbyn galwadau o bob cwr o'r DU, ac mae Mrs Davies wedi delio â thrychinebau fel Tân Tŵr Grenfell yn Llundain yn 2017 a bom Arena Manceinion yr un flwyddyn.
Bu hi hefyd yn ateb ymholiadau o Brydain am ymosodiadau 9/11 yn Efrog Newydd.
"Pan mae 'na rywbeth mawr yn digwydd, 'dach chi'n gwybod, achos mae'r galwadau yn cyrraedd fesul pentyrrau, ac mae'r buzzer yn mynd a dydy o ddim yn mynd off," meddai.
"Er ein bod ni'n ateb cyn gymaint â fedrwn ni, 'dach chi methu ateb nhw i gyd yn instant am fod 'na gymaint yn ffonio."
Ond symud ymlaen i'r alwad nesaf ydy'r ffordd o ddelio gyda sefyllfaoedd felly, meddai Mrs Davies, sy'n dal i weithio llawn amser ar shifftiau nos.
"Does 'na'm iws i mi dwellio ar un call dwi'n ei gael. Dywedwch fod rhywun wedi cael ei stabbio, sydd yn sobor o beth - fedra' i ddim dal i feddwl am y person yna achos mae gen i gymaint o rai eraill angen eu hateb."
90,000 galwad y dydd
Mae ffigyrau mae BT wedi eu rhannu gyda BBC Cymru yn dangos bod mwy o bobl ar draws y DU wedi galw 999 yn 2020-21 nag erioed o'r blaen.
Yn y cyfnod hwnnw, roedd tua 33 miliwn galwad i'r gwasanaeth, sef tua 90,000 y dydd. Mae'r ganolfan yng ngogledd Cymru yn derbyn tua 20% o'r rheiny, sef oddeutu 16,000 y dydd.
Er gwaethaf y pwysau, dydy Mrs Davies - sydd wedi cael MBE eleni yn gydnabyddiaeth o'i gwaith - ddim yn bwriadu rhoi'r gorau iddi eto.
"Gawn ni weld sut eith pethau!" meddai. "Dwi'n berson positif, dwi'n very organised, dwi'n friendly, a 'sa rhai yn dweud 'mod i'n siaradus!
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig sut berson ydach chi i wneud y math yma o waith… dwi'n ei fwynhau o'n arw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2020
- Cyhoeddwyd11 Awst 2021
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2021