System newydd i leihau y niferoedd mewn Uned Frys
- Cyhoeddwyd

System newydd o flaenoriaethu cleifion mewn adran damweiniau sy'n cael ei lansio ddydd Mercher yn ysbyty mwyaf Cymru ydi'r "ffordd ymlaen" yn ôl arbenigwr yn y maes.
Mewn ymgais i atal unedau brys rhag bod yn rhy llawn bydd cleifion sydd â salwch sydd ddim yn peryglu eu bywyd yn gorfod cysylltu ymlaen llaw i gael eu hasesu gan weithiwr iechyd.
Ac yn ôl Dr Sherard Le Maitre, cyfarwyddwr clinigol y project, bydd y gwasanaeth yn un parhaol fydd yn cael ei gopïo ar draws Cymru.
Ond fydd y system ddim yn disodli galwadau 999 ar gyfer cyflyrau sy'n berygl i fywyd.
Bydd y cynllun, CAV 24/7, ar gael am ddim ar gyfer unrhyw un yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n credu fod angen iddyn nhw ymweld ag adran ddamweiniau Ysbyty Prifysgol Cymru (Mynydd Bychan).

Y gobaith yw lleihau y niferoedd sydd yn mynd i uned frys Ysbyty Athrofaol Caerdydd
Bydd y gwasanaeth yn clustnodi lle yn yr uned Frys neu'r uned Mân Anafiadau.
Bydd cyngor ar gael hefyd os na fydd angen apwyntiad.
Nid rhyw 'dân siafins' oherwydd y pandemig ydi hyn yn ôl Dr Le Maitre ond y dyfodol ar gyfer yr unedau brys mewn ysbytai led led Cymru.
Ar ddiwrnod prysuraf Adran Ddamweiniau Ysbyty Prifysgol Cymru llynedd daeth 515 o gleifion i'r adran, a byddai 311 o'r rhain wedi bod yn addas i'w prosesu dan CAV 24/7 yn hytrach na mynd i'r uned frys.
'Cynllun cynhyrfus'
Ysbyty Brenhinol Caerdydd (y CRI) fydd canolfan y cynllun CAV 24/7. Mae ugain o nyrsys wedi arbenigo ar dechneg blaenoriaethu wedi cael eu penodi i helpu cleifion dros y ffôn.
Yn ôl Catherine Castle, nyrs sydd wedi arbenigo yn y maes, mae hwn yn "gynllun cynhyrfus" all leihau'r baich ar adrannau brys sy'n delio efo heidiau o bobol a allai gael eu trin gan eu meddyg eu hunain.
Yn draddodiadol mae llawer o deuluoedd cleifion hefyd yn eistedd yn yr uned gyda'r cleifion meddai.
"Byddan nhw yn holi'r cwestiwn nawr - 'allwch chi ddod yno eich hunan?' Fydd yna ddim cymaint o draffig yno felly sy'n achosi problemau a mwy o waith i staff prysur yr uned Frys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2020