YesCymru: 'Rhaid rhoi egos i'r naill ochr a gweithredu'
- Cyhoeddwyd
Dywed cyn-gadeirydd YesCymru bod yn rhaid i'r mudiad weithredu ar frys er mwyn sicrhau na fydd "Cymru ar ei hôl hi" petai'r Alban yn datgan annibyniaeth.
Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd Siôn Jobbins nad oedd bellach am fod yn gadeirydd y mudiad annibyniaeth oherwydd "pwysau'r rôl".
Wrth gael ei holi ar raglen Bethan Rhys Roberts fore Sul dywed Mr Jobbins hefyd ei bod hi'n amser ffurfio pwyllgor canolog.
"Rhaid torchi llewys ac mae angen i rai pobl roi egos naill ochr - rhaid i ni weithio gyda'n gilydd gan roi annibyniaeth i Gymru gyntaf," meddai.
"Mae neges YesCymru nawr yn bwysicach nag erioed. Dwi'n meddwl bod pethau yn newid yn gloi iawn - mae pobl yn awchu am newid, mae pobl yn awchu am rywun ag arweiniad a dwi'n meddwl mai YesCymru sy'n cynnig hynna.
"Rhaid i ni feddwl nawr be 'dan ni'n neud y diwrnod y mae'r Alban yn datgan annibyniaeth - rhaid i ni beidio cael ein dal mas achos bo ni ddim wedi 'neud y gwaith caled.
"Mae San Steffan wedi cael blynyddoedd i gynnig ffederaliaeth - dyw e jyst ddim yn mynd i ddigwydd. Fi'n credu mai ffenest o ryw 18 mis fydd 'da ni i gael annibyniaeth wedi i'r Alban ddatgan - os yw'n hwy na hynny bydd San Steffan wedi rhoi cyfansoddiad mewn trefn a fydd yn ei gwneud hi'n anodd i adael."
'Rhaid peidio bod yn naïf'
Daw sylwadau Mr Jobbins wedi i Brif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, ddweud yr wythnos hon y bydd hi'n ceisio sicrhau refferendwm ar annibyniaeth yn Yr Alban cyn diwedd 2023.
"Mae eisiau i ni yng Nghymru gael pethau mewn trefn erbyn hynny," meddai Mr Jobbins, "mae'r gwn wedi tanio.
"Beth bynnag ein barn am annibyniaeth dwi'm yn meddwl bod lot o bobl eisiau bod mewn Teyrnas Unedig sydd heb yr Alban a dwi'n credu na fydd Gogledd Iwerddon yn sefyll o gwmpas yn rhy hir.
"Mae nifer yn hoffi'r teimlad bod Cymru yn rhan o Brydain - Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon - dwi'n parchu hynna ac yn deall hynna ond mae hwnna i gyd yn mynd i gwympo pan fydd Yr Alban yn gadael ac yn fuan iawn efallai bydd Gogledd Iwerddon yn gadael hefyd.
"Mae cuddio tu ôl i soffa gan obeithio y bydd San Steffan yn rhoi briwsion i ni yn naïf tu hwnt."
'Mudiad cynhwysol'
O gael ei holi am drafferthion honedig YesCymru dywed Mr Jobbins mai twf sydyn y mudiad sy'n bennaf gyfrifol a bod hynny wedi arwain at ddiffyg strwythur ond dywed ei fod yn hyderus bod gwersi wedi'u dysgu.
"Fe dyfodd y mudiad yn gloi iawn ac yn fendigedig a hynod o gynhyrfus - ac mae e dal yma. Ni wedi cael haf tawel - mae eisiau i'r mudiad nawr gael pwyllgor canolog at ei gilydd i ddechrau rhoi trefn ar bethau a ffurfio cyfansoddiad... does yna ddim amser i bobl ddadlau ymysg ei gilydd.
"O ran y pwyllgor canolog rhaid i bawb fod y tu cefn iddyn nhw. Nawr bod Covid gobeithio yn tawelu ni methu jyst bod ar-lein - mae pobl eisiau gwneud rhywbeth dyfnach nawr.
"Rhaid dechrau mynd nôl ar y stryd a chael ralïau - ond hefyd trafod gyda phobl. Rhaid cael papur newydd allan yn yr hydref gan gyrraedd miliwn o bobl unwaith eto. Does dim amser 'da ni bellach i drafod manion.
"Ro'n i'n fudiad a dyfodd yn fawr iawn a doedd gennym ddim strwythurau i ddelio gyda hynny - mae rheina nawr yn cael eu rhoi mewn lle ac mae eisiau cryfhau hynny.
"Mae angen edrych ar staffio a sicrhau bod gwaith o ddydd i ddydd yn cael ei wneud gan bobl sy'n cael eu talu. Gall y pwyllgor canolog ddim wastad trafod pob penderfyniad ar Twitter neu fydd dim yn cael ei benderfynu."
Ychwanegodd: "Os yw pobl eisiau stwff i ddigwydd mae eisiau i rai pobl roi eu egos i'r naill ochr.
"Fe gafodd y pwyllgor, yn gynharach yn y flwyddyn, ei ethol mewn ffordd ddemocrataidd ar-lein ac fel cadeirydd ar y pryd ro'n i'n falch bod gen i bwyllgor cynhwysol - a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth o ferched a phobl nad oedd yn wyn.
"Mae'r syniad bod unrhyw takeover yn hollol hurt.
"Rhaid derbyn pobl am bwy ydyn nhw - o ran iaith, plaid, lliw croen a rhywioldeb - mae'r hyn ry'n yn ei frwydro amdano yn annibyniaeth cynhwysol."
Dywed Siôn Jobbins na fydd yn ymgeisio i fod yn gadeirydd ond fel aelod brwd ei fod yn edrych ymlaen at waith caled y misoedd nesaf.
"Fyddai ddim yn trio am y gadeiryddiaeth ond fyddai'm yn dawedog ac fe fyddaf yn sicr yn mynd nôl i'r ffeit - achos mae ffeit yn mynd i ddod a bydd yn rhaid i bobl dorchi llewys. Ydi mae neges YesCymru yn bwysicach nawr nag erioed."
Mae modd clywed y cyfweliad yn llawn ar raglen Bethan Rhys Roberts fore Sul am 0800 ar BBC Radio Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2021