YesCymru: 'Dim newid ym Mae Caerdydd, dim annibyniaeth'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Miloedd o aelodau newydd, ond oes 'na dwf go iawn yn y gefnogaeth i annibyniaeth?

Bydd angen i Gymru benderfynu rhwng "annibyniaeth ac ymgorffori" yn y blynyddoedd i ddod oherwydd bod datganoli wedi cyrraedd "cul-de-sac", yn ôl YesCymru.

Ni fydd y mudiad, sy'n ymgyrchu o blaid annibyniaeth, yn cefnogi "un blaid wleidyddol" yn etholiad Senedd mis Mai.

Ond dywedodd Siôn Jobbins, cadeirydd YesCymru: "Os nad oes newid ym Mae Caerdydd, does dim annibyniaeth."

Mae aelodaeth y grŵp wedi neidio o 2,000 ar ddechrau 2020 i dros 17,000, yn ôl y mudiad.

"Rydyn ni wedi creu mudiad torfol," meddai Mr Jobbins. "Felly, gyda'r arian, mae hynny'n mynd i gyrraedd mwy a mwy o bobl.

"Rydyn ni'n ceisio cyrraedd pobl sydd ddim yn ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol, sydd ddim yn rhan o'r gwahanol rwydweithiau sy'n digwydd yng Nghymru."

Pan ofynnwyd iddo gan raglen BBC Politics Wales sut olwg fyddai ar Gymru annibynnol, dywedodd Mr Jobbins: "I YesCymru, mae dau beth sylfaenol, sef cydnabyddiaeth ryngwladol, felly sedd yn y Cenhedloedd Unedig... ac yna ein cyfansoddiad ysgrifenedig ein hunain.

"A yw'n golygu bod gennym y frenhiniaeth? Dyna gwestiwn arall. A yw'n golygu ein bod yn NATO? Dyna gwestiwn arall. A yw'n golygu bod gennym ein harian ein hunain? Mae hwnnw eto'n gwestiwn gwahanol.

"Mae hynny i grwpiau eraill drefnu ac ymgyrchu o blaid neu yn erbyn," ychwanegodd.

Croesawodd Mr Jobbins adroddiad comisiwn annibyniaeth Plaid Cymru fel "cam mawr, pwysig iawn".

Ychwanegodd fod argymhelliad yr adroddiad, lle byddai Cymru annibynnol yn ceisio cronni adnoddau gyda Lloegr a'r Alban, yn "hollol gydnaws â bod yn wlad annibynnol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Siôn Jobbins yn cydnabod y byddai annibyniaeth yn "her"

Amlinellodd awduron yr adroddiad a gomisiynwyd gan Blaid yr anawsterau economaidd y maen nhw'n credu a fyddai'n wynebu Cymru annibynnol.

Yn yr adroddiad maen nhw'n dweud: "Mae'n parhau i fod yn anodd peidio anwybyddu goblygiadau cost tymor byr, tymor canolig neu hyd yn oed tymor hir dewis annibyniaeth."

Dywedodd Mr Jobbins y byddai'n "anghytuno â hynny" ond ei fod "yn her".

Ychwanegodd: "Yn yr 1960au, roedd economi Cymru ddwywaith maint economi Gweriniaeth Iwerddon.

"Heddiw, mae economi Gweriniaeth Iwerddon bedair gwaith yn fwy na Chymru, ac mae hynny'n mynd i waethygu.

"Byddai'n her, ond mae gennym her os arhoswn yma [yn rhan o'r DU].

"Nid yw'r status quo yn opsiwn a gydag annibyniaeth mae gennym yr holl offer sydd ar gael inni."

'Tensiwn' ymysg aelodau

Mae YesCymru yn bwriadu cysylltu â holl ymgeiswyr etholiad y Senedd cyn y bleidlais a drefnwyd ar 6 Mai i ofyn "iddyn nhw am eu barn ar annibyniaeth" a sicrhau ei bod ar gael i'r cyhoedd.

Ni fydd yr ymgyrch wleidyddol amhleidiol yn cefnogi pleidiau gwleidyddol unigol yn benodol yn yr etholiad.

Ond dywedodd Sion Jobbins "mae'n rhaid i ni gael llywodraeth yng Nghymru sydd â llwybr i annibyniaeth".

Mae'r grŵp yn cynnwys cefnogwyr ac aelodau Llafur ond polisi swyddogol y blaid yw cefnogaeth i ddatganoli yn y Deyrnas Unedig.

Byddai Plaid Cymru, y Blaid Werdd a Gwlad Gwlad i gyd yn sefyll o blaid annibyniaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Miloedd o gefnogwyr annibyniaeth i Gymru yn gorymdeithio yng Nghaernarfon ym mis Gorffennaf 2019

Ychwanegodd Mr Jobbins: "Os nad oes newid ym Mae Caerdydd, nid oes annibyniaeth ac mae hon yn neges hefyd i gefnogwyr YesCymru.

"Mae'n rhaid i'n haelodau unigol, cefnogwyr wneud eu dewis personol eu hunain.

"Oes, mae yna densiwn yno, does dim gwadu hynny... mae gennym ni lawer o aelodau sy'n aelodau o'r Blaid Lafur.

"Yn sicr, mae angen plaid [yn Senedd Cymru], sy'n cefnogi annibyniaeth ac sydd naill ai'n gorfodi partner arall i gael llwybr clir i sbarduno annibyniaeth neu nid yw'n mynd i ddigwydd ac mae angen i'n cefnogwyr ddeall hynny."

Dechreuodd ffrae ar Twitter yn ddiweddar yn dilyn post o gyfrif YesCymru am Geidwadaeth.

Pan ofynnwyd os oes lle yn YesCymru i Geidwadwyr, dywedodd Mr Jobbins: "Dwi'n meddwl bod yna.

"Rydyn ni'n gwybod y byddai tua 10% o'r bobl sy'n pleidleisio i'r Torïaid mewn gwirionedd yn pleidleisio dros annibyniaeth... mae yna le yno i bobl o feddwl ceidwadol."

Gwyliwch y cyfweliad yn llawn ar BBC Politics Wales ar BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul, 17 Ionawr.