Diwrnod 1: Morgannwg 246-6 yn erbyn Caerloyw

  • Cyhoeddwyd
cricedFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bore da i Forgannwg ond Tom Price yn disgleirio i Gaerloyw yn ystod chwarae y diwrnod cyntaf

Caerloyw yw gwrthwynebwyr Morgannwg yn y gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Siroedd am yr haf a dewis Caerloyw oedd rhoi y tîm cartref ar y llain.

Rhoddodd dau fatiwr agoriadol Morgannwg Hamish Rutherford (62) a David Lloyd (73), sylfaen dda drwy sgorio 135 rhyngddynt.

Roedd hi'n fore da iawn i Forgannwg ond yn anffodus yn y prynhawn fel gollwyd chwe wiced am 55 rhediad.

Ond yna llwyddodd 60 diguro Eddie Byrom a phartneriaeth gydag Andrew Salter i sefydlogi a chryfhau'r perfformiad unwaith yn rhagor.

Ar ddiwedd y y chwarae ar y diwrnod cyntaf yng Ngherddi Soffia roedd y tîm cartref wedi sgorio 246 am chwe wiced mewn 96 pelawd.

Pynciau cysylltiedig