Yn ôl i'r ffas
- Cyhoeddwyd
Wel dyma i chi deimlad rhyfedd. Rwy'n gohebu ar y Senedd o'r Senedd am y tro cyntaf ers cychwyn y pandemig ac er nad yw pethau yn y Bae yn agos at fod yn normal dydyn nhw ddim chwaith mor rhyfedd ac maen nhw wedi bod.
Nid fod y pandemig ar ben wrth gwrs, fe fydd 'na sawl tro yng nghwt hwnnw bid siŵr heb sôn am yr holl droeon trwstan bregsitaidd sydd o'n blaenau.
Eto i gyd, mae 'na ryw deimlad o normalrwydd a sefydlogrwydd o gwmpas y lle - teimlad a allai fod yn apelgar iawn i gyhoedd sy'n teimlo'n flinedig ac yn fregus.
Maen werth cofio efallai taw'r gwleidydd wnaeth fanteisio orau ar y pandemig diwethaf ganrif yn ôl oedd Warren G Harding.
Mae'n ffigwr anghofiedig bron ond enillodd arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau ar garlam trwy addo "a return to normalcy" er gwaethaf gramadeg amheus y slogan hwnnw!
Mae'n bosib bod Plaid Cymru a Llafur wedi synhwyro'r awch hynny o ran yr etholwyr wrth benderfynu cynnal trafodaethau i lunio rhaglen lywodraethol am y tair blynedd nesaf.
Nid llywodraeth glymblaid sydd yn yr arfaeth ond rhyw fath o gonsensws rhwng y ddwy blaid ynghylch blaenoriaethau'r llywodraeth.
Mae'n hawdd gweld pam y mae trefniant o'r fath yn apelio at Mark Drakeford. Fe fyddai'n sicrhau bywyd llawer iawn haws i'w lywodraeth yn y siambr ac yn cryfhau nerth braich y datganolwyr yn nadleuon mewnol y blaid Lafur.
Os oes 'na wrthwynebiad i'r syniad yn rhengoedd y blaid Lafur, o San Steffan y bydd y cwynion yn dod.
O safbwynt Plaid Cymru os ydy'r arweinyddiaeth am argyhoeddi'r aelodau bod closio at Lafur yn syniad da bydd angen enillion clir a phlaen mewn meysydd megis yr argyfwng tai gwledig a diwygio'r Senedd er mwyn gwneud hynny.
Mae'r cyfan braidd yn annelwig a haniaethol ar hyn o bryd, sy'n codi cwestiwn amlwg sef hwn. Pam gwneud cyhoeddiad o gwbl a'r trafodaethau ar eu hanner?