Teyrnged teulu i fachgen 'direidus, doniol a serchus'

  • Cyhoeddwyd
Tomos Rhys BunfordFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y teulu bod Tomos yn mwynhau bod ar y fferm gyda'i deulu, a'i fod yn agos iawn i'w frawd a'i chwaer, Gethin a Clemmey

Mae teulu bachgen naw oed a gafodd ei ladd ar ôl cael ei wasgu gan gerbyd mewn cae yn Rhondda Cynon Taf wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Tomos Rhys Bunford yn dilyn digwyddiad mewn cae yng Nglynrhedynog, ger ei gartref yn Ynysybwl, ar 6 Medi.

Cafodd cwest ei agor yn Llys Crwner Pontypridd ddydd Mawrth a'i ohirio tan 2023.

"Roedd Tomos yn blentyn direidus, doniol, serchus oedd yn byw bywyd i'r eithaf," medd ei deulu mewn datganiad.

"Fe wnaeth argraff ar bawb yr oedd yn eu cyfarfod. Roedd Tomos yn fachgen bach caredig a sensitif oedd wastad yn gwenu, chwerthin, chwarae triciau neu'n gwneud jôcs."

Ychwanegodd y teulu: "Ni ddylai unrhyw riant golli plentyn mor ifanc â Tomos a fel y gallwch ddychmygu mae'r uned deuluol yn brwydro i ddod i delerau gyda'r golled yma."

Mae Heddlu De Cymru a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r achos, ac mae swyddogion heddlu arbenigol yn rhoi cefnogaeth i'r teulu.

Pynciau cysylltiedig