Covid: 'Risg o ddirwy yn well nag anfon plant i'r ysgol'
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni'n dweud bod rhaid dewis rhwng iechyd eu teuluoedd ac addysg eu plant oherwydd rheolau presenoldeb "amhosib", wrth i achosion Covid-19 barhau'n uchel.
Yn ôl cyngor Llywodraeth Cymru, mae disgyblion yn medru mynychu'r ysgol hyd yn oed os ydynt yn byw gyda rhywun sy'n dioddef gyda Covid-19.
Dywedodd rhieni wrth BBC Cymru y byddai'n well ganddyn nhw dalu dirwy triwantiaeth yn lle rhoi bywydau eu teulu mewn perygl.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cyngor ar hunan-ynysu yn "hollol glir".
'Anniogel'
Ers dechrau'r pandemig, mae dirwyon am beidio anfon plant i'r ysgol wedi'u hatal.
Ond nawr mae swyddogion yn ystyried ailgyflwyno'r cosbau, mae elusennau yn galw ar y llywodraeth i helpu rhieni all fod ar eu colled.
Yn ôl y cyngor diweddaraf, mae disgwyl i blant aros adref os ydyn nhw'n datblygu symptomau Covid-19 neu yn fregus ac yn gorfod gwarchod rhag y feirws.
Ond os yw rhiant neu aelod o'r cartref yn profi yn bositif, does dim angen i blentyn aros o'r ysgol, cyn belled a bod dim symptomau a phrawf negyddol.
Dywedodd rhai rhieni er eu bod eisiau i'w plant aros yn yr ysgol, maen nhw'n ofni y bydd rhaid eu cadw adref oherwydd bod rheolau'n "anniogel".
'Dwi'n bryderus bob dydd'
Dywedodd un fam, sydd ddim am i ni ei henwi ar ôl dioddef casineb ar-lein, ei bod hi wrth ei bodd bod ei mab pump oed wedi dychwelyd i'r ysgol - ond yn "bryderus bob dydd" gallai ddal Covid.
Mae gan y fam gyflwr iechyd allai olygu mwy o beryg iddi pe bai hi'n dal y feirws, a dywedodd bod rhaid iddi wneud popeth i amddiffyn ei theulu.
Ond mae ofn ganddi fod pobl yn danfon eu plant i'r ysgol gyda Covid, gan roi ei mab a'i theulu mewn peryg.
"Mae fel amser cinio yn y sw... roedd achosion y flwyddyn ddiwethaf ac fe wnaeth 19 disgybl ddal y feirws... wnes i gadw fy mab adref am dair wythnos," meddai.
"Dwi'n ceisio dysgu iddo olchi ei ddwylo, ond mae'n rhoi pethau yn ei geg... mae ond yn bump."
"Dydw i ddim yn fodlon gamblo ein bywydau am 10 diwrnod o addysg," ychwanegodd.
"Mae'n mynd i gyrraedd pwynt lle dwi angen rhoi iechyd fy nheulu o flaen addysg fy mab."
'Does gen i ddim dewis'
Dywedodd mam arall, Charlotte Harding, ei bod hi'n falch bod ei phlant yn ôl yn yr ysgol, ar ôl misoedd adref.
"Mae mor bwysig, roedd fy mab hynaf yn mynd yn unig iawn... dwi'n gobeithio fydd e ddim yn digwydd 'to," meddai.
Ond mae gan Ms Harding, sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, Syndrom Sjogren's, haint awtoimiwnedd sy'n effeithio ar ei hysgyfaint ac yn achosi poen difrifol.
Os fydd achosion Covid yn codi'n bellach, dywedodd y bydd rhaid iddi dynnu ei phlant allan o'r ysgol, a'i bod yn hapus i wynebu dirwyon er mwyn cadw ei theulu yn "iach a diogel".
'Chi methu cloi pobl i mewn'
Dywedodd AIMS, elusen ar gyfer pobl sy'n byw gyda heintiau awtoimiwnedd a sglerosis gwasgaredig, bod angen help i rieni sy'n wynebu'r "penderfyniad caled" i anfon eu plant yn ôl i'r ysgol.
Yn ôl Alisson Coates, sylfaenydd yr elusen, mae pobl gyda systemau imiwnedd gwan yn dal i fod yn ofalus iawn oherwydd y gallent dal ddioddef salwch gwael er iddynt gael eu brechu.
Ond dywedodd nad yw pobl yn gallu rheoli os yw eu plant yn dal y feirws yn yr ysgol, a bod rhaid i'r llywodraeth chwilio am fodd i amddiffyn rhieni a theuluoedd sy'n fwy bregus.
"Dydw i ddim yn gwybod beth i 'neud... ond mae rhain yn grwpiau bach o bobl sydd wedi'u hanghofio i raddau... dylwn geisio amddiffyn nhw cymaint a gallwn," meddai.
"Da' ni methu jyst cloi pobl i ffwrdd ac anghofio amdanynt."
Cyngor yn 'hollol glir'
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cyngor yn "hollol glir" a dylai plant aros adref os ydynt yn dioddef symptomau Covid neu wedi profi'n bositif.
"Mae llwyddiant y rhaglen frechu wedi galluogi ni i diddymu rhai mesurau gafodd eu defnyddio mewn ysgolion," meddai llefarydd.
"I leihau'r aflonyddu i ysgolion, wrth gadw'n ddiogel, rydym wedi cyflwyno fframwaith lle mae ysgolion yn medru cynyddu mesurau i leihau'r lledaeniad o Covid mewn ardaloedd lle mae meddygon wedi nodi risg lleol cynyddol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2021
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021