Profi peiriannau oson ysgolion wedi pryderon diogelwch
- Cyhoeddwyd
Fe fydd peiriannau sydd wedi eu dylunio i ddiheintio ystafelloedd dosbarth, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddydd Llun, yn cael eu profi gan arbenigwyr cyn i weinidogion eu prynu.
Ddydd Llun fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi y byddai'n gwario dros £3m ar y peiriannau oson sydd wedi eu datblygu gan Brifysgol Abertawe.
Ond arweiniodd hynny at bryderon gan wrthbleidiau am eu diogelwch.
Mae hi bellach wedi dod i'r amlwg nad oes penderfyniad wedi ei wneud ynghylch eu prynu.
Bydd y Grŵp Cynghori Technegol i'r llywodraeth yn ystyried canlyniadau profion cynnar ar y peiriannau "cyn unrhyw broses o'u prynu", meddai'r llywodraeth.
Dywedodd Plaid Cymru bod y llywodraeth wedi gwneud "tro pedol rhyfeddol".
Cyhoeddodd y gweinidog addysg y byddai 30,000 o fesuryddion carbon deuocsid, ynghyd â 1,800 o beiriannau diheintio oson yn cael eu darparu i ysgolion, ar gost o £6m.
Ar y pryd, dywedodd y llywodraeth y byddant yn diheintio ystafelloedd yn dilyn achosion positif o'r coronafeirws.
Mae oson yn nwy gwenwynig sy'n gallu niweidio'r ysgyfaint.
Dywedodd Plaid Cymru ddydd Llun bod defnydd y peiriannau oson yn "ddadleuol a dweud y lleiaf", a bod angen sicrwydd o'u diogelwch cyn eu defnydd.
Nos Fercher, dywedodd Rhun ap Iorwerth, AS Plaid Cymru, bod y llywodraeth wedi gwneud "tro pedol ryfeddol", a bod "cwestiynau difrifol i'w gofyn am benderfyniad y llywodraeth i ddefnyddio'r peiriannau yma".
Roedd y Ceidwadwyr wedi dweud bod angen "cadarnhad o'r camau pendant fydd yn eu lle i atal unrhyw un rhag dod i gysylltiad gyda [oson]".
Fore Iau dywedodd Laura Anne Jones, AS Ceidwadol, ei bod yn "croesawu'r tro pedol yma gan weinidogion Llafur", ond ei bod yn "gwbl syfrdanol na wnaethon nhw gymryd cyngor gan wyddonwyr cyn cyhoeddi".
'Dal i aros am dystiolaeth'
Mae undeb yr NAHT wedi dweud bod "unrhyw gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i gadw ysgolion mor ddiogel â phosib" i'w groesawu gan ysgolion.
Ond ychwanegodd y cyfarwyddwr Laura Doel ei bod "yn dal i aros am weld y dystiolaeth sy'n cefnogi eu defnydd".
Mae'r meddyg ac ymgyrchydd ar sicrhau awyr iach, Dr Eilir Hughes, wedi dweud nad yw defnyddio oson i ddiheintio yn synhwyrol "pan fo opsiynau mwy diogel ar gael".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod diogelu disgyblion rhag y feirws yn "brif flaenoriaeth", a bod cyllid sylweddol ar gael i "fonitro awyru mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion a lleihau'r risg o basio Covid-19 yn yr awyr".
Yn ogystal â'r mesuryddion carbon deuocsid, dywedodd y llefarydd bod y llywodraeth "wedi ystyried defnyddio peiriannau oson os ydynt yn gallu chwarae rhan mewn lleihau amseroedd diheintio".
Ychwanegodd y byddai'r Grŵp Cynghori Technegol yn ystyried profion ar y peiriannau cyn unrhyw bryniant.
Dywedodd Prifysgol Abertawe bod y peiriannau fesurau diogelwch yn cynnwys modd o ostwng yr oson i lefel ddiogel ar ddiwedd y broses, rheolaeth ddiwifr a signal i ddangos pryd mae'n ddiogel i ddychwelyd i ystafell.
Ychwanegodd y llefarydd nad yw'r peiriannau ar gyfer defnydd dyddiol, ond yn hytrach pan mae achosion positif, a bod oson yn ddiheintydd cyffredin mewn bwytai, gwestai, deintyddfeydd a chartrefi gofal.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2021