Cwpan yr EFL: Brighton 2-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Abertawe allan o Gwpan y Gynghrair Lloegr wedi iddyn nhw gael eu trechu oddi cartref yn Brighton yn y drydedd rownd nos Fercher.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi ychydig dros hanner awr, gydag ergyd Aaron Connolly yn gwyro oddi ar yr amddiffynnwr Brandon Cooper i gefn y rhwyd.

Dyblwyd y fantais bum munud yn ddiweddarach wrth i Connolly ychwanegu ei ail o'r noson gan rwydo i gornel isa'r rhwyd o 20 llath.

Er gwaethaf y canlyniad, ni chafodd Brighton gêm hawdd gan yr Elyrch, gyda'r ymwelwyr wedi cael digon o gyfleoedd i ennill ond yn gwastraffu'r cyfleoedd hynny.