Tourette's: 'Fi'n drist a'n grac, sa'i 'di gofyn am hwn'
- Cyhoeddwyd
Mae yna alwadau ar Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n byw gyda syndrom Tourette's.
Dechreuodd Megan Jones, 17, wneud ticiau - symudiadau anwirfoddol - y llynedd, ac mae'n dweud bod "diffyg dealltwriaeth a diffyg cymorth" i bobl sydd â syndrom Tourette's.
Ar hyn o bryd, dim ond un arbenigwr syndrom Tourette's sydd yng Nghymru, a dydyn nhw ddim yn trin plant.
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi "ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn sydd â chyflwr niwro-ddatblygiadol, yn cynnwys syndrom Tourette's, yn gallu cael mynediad i'r gwasanaethau a'r gofal y maen nhw eu hangen", a'i bod yn adolygu gwasanaethau "er mwyn adnabod ble mae yna fylchau yn y ddarpariaeth".
Ni atebodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ein cais am sylw.
Fe ddechreuodd Megan, o Landysul, brofi ticiau - ble mae person yn gwneud symudiadau neu synau niferus, anwirfoddol - ym mis Chwefror y llynedd.
"Head jerks... fi'n whistloloads, pryd fi'n dweud 'Whitwoo' ma' pobl yn gwybod fi yw e. Fi'n puncho pethau, fi'n cwympo, fi 'di cael loads o bruises... fi'n clicio, fi'n siarad, fi'n dweud pethau, fi'n rhegi," meddai.
Ym mis Mai fe ddechreuodd hi brofi strociau, sydd bellach yn digwydd yn ddyddiol.
"Maen nhw yn really wael, ac mae fe'n really danjerus.
"Ma' ysgol ddim yn gadael i fi fynd lawr town, a mynd off campus tan bo' fi ar fws, ac wedyn ar y bws, ma' 'da fi ffrindiau sy'n gwybod popeth maen nhw fod 'neud, ac mae'r [gyrwyr] bysiau 'fyd yn gwybod a phopeth."
Mae Megan yn dweud bod y cyflwr yn "rhwystredig".
"Ma' fe'n really annoying, ma' gyd o ffrindiau fi'n dysgu sut i ddreifio, a fi'n desperate i ddreifio a sai' gallu. A 'na'r un peth fi really moyn 'neud a fi moyn mynd travello, fi moyn gweld y byd, a sa'i gallu 'neud 'na. S'dim 'da fi independence o gwbl."
"Mae fe'n 'neud fi'n drist ac yn grac, sa' i 'di gofyn am hwn."
Mae Megan wedi bod am lawer o brofion, ond misoedd yn ddiweddarach mae hi'n dweud ei bod yn "dal yn aros am atebion".
'Angen arbenigwr i blant'
Mae Helen Reeves-Graham o Sir Benfro wedi dechrau deiseb yn galw am wasanaethau gwell, yn cynnwys arbenigwr syndrom Tourette's i blant yng Nghymru.
Fe ddechreuodd hi'r ddeiseb, dolen allanol ar ôl i'w merch 13 oed ddatblygu'r cyflwr yn ystod y pandemig.
"Mae gwylio eich plentyn yn bwrw ei hunan neu'n methu dal cwpan... yn methu mynd i'r ysgol, mae'n erchyll," meddai.
"Ar y lleiaf, ni angen mynediad i arbenigwr yng Nghymru.
"Mae ein pediatrydd yn wych, ond mae hi'n gofyn fi cwestiynau... dwi ddim yn arbenigwr meddygol, dwi ddim yn gwybod beth yw beth."
Ychwanegodd bod "yn bendant angen rhyw fath o ganllawiau [y corff iechyd] NICE neu lwybr meddygol".
"Fi'n credu dyna un o'r pethau cyntaf sydd angen digwydd, fel bod pobl yn gwybod ble i fynd a beth sy'n mynd i ddigwydd, does dim ots ble chi'n byw.
"Ar hyn o bryd, chi just yn cael eich gadael i syrffio'r we a ffeindio help eich hunan.
"Fi'n meddwl os oedd gyda ni llwybr meddygol, bydde chi ddim yn cael eich symud o un lle i'r llall a chael eich pasio o gwmpas mewn cylchoedd, a chael eich gwrthod pobman. Byddai'r meddyg teulu'n gwybod yn union ble i fynd a ble i gyfeirio chi at i chwilio am gymorth."
'Fi moyn help'
Fel Helen, mae Megan yn cytuno bod angen mwy o gymorth.
"Fi moyn help really, fi moyn y solution, i symud 'mlaen, ac i fynd i brifysgol, ac i fynd mas mewn i'r byd yn gwybod be' sy'n bod, yn gwybod sut i ddelio 'da fe, yn enwedig pryd fi ar fy hunan, ma' fe'n really anodd.
"A fi'n credu, os ma' help yna, a fi'n credu os mae mwy o bobl yn gwybod beth yw Tourette's, wrtho hwnna ni gallu mynd ymlaen gyda'r atebion sydd eisiau."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi "ymrwymo i sicrhau bod plant sydd â chyflyrau niwro-ddatblygiadol, yn cynnwys syndrom Tourette's, yn gallu cael mynediad i'r gwasanaethau a'r gofal y maen nhw eu hangen, a bod y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gweithredu fframwaith newydd i wella'r mynediad i'r gefnogaeth gywir".
Ychwanegodd: "Wrth i bwysau ar asesiadau a gwasanaethau cefnogol barhau i gynyddu, rydyn ni'n adolygu ein holl wasanaethau niwro-ddatblygiadol i blant ac oedolion, er mwyn adnabod ble mae yna fylchau yn y ddarpariaeth a'r galw, capasiti a dyluniad gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion.
"Mae'r gwaith yma fod cael ei gyflawni erbyn mis Mawrth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019