Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Rygbi Caerdydd 33-21 Connacht

  • Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Jarrod Evans adael y cae, yn gadael Caerdydd heb faswr arbenigolFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Jarrod Evans adael y cae, yn gadael Caerdydd heb faswr arbenigol

Rygbi Caerdydd fu'n fuddugol nos Wener yn gêm agoriadol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Connacht.

Fe gollodd Caerdydd dau o'i faswyr - Rhys Priestland a Jarrod Evans - yn yr 21 munud agoriadol gyda'r mewnwr Lloyd Williams yn chwarae yng nghrys rhif 10 am bron a bod awr.

Sgoriodd Owen Lane dau gais i'r tîm cartref gyda Hallam Amos, Willis Halaholo a Liam Belcher yn sgorio pwyntiau i selio'r fuddugoliaeth.

Sgoriodd Kieran Marmion dau gais i Connacht.

Hon oedd y gêm gyntaf gystadleuol mae Caerdydd wedi chwarae o flaen cefnogwyr ym Mharc yr Arfau ers mis Chwefror 2020 pan enillon nhw yn erbyn Benetton.

Roedd hefyd yn y gêm gyntaf mae'r tîm wedi chwarae o dan yr enw newydd Rygbi Caerdydd yn lle'r Gleision Caerdydd.

Pynciau cysylltiedig