Y Bencampwriaeth: Blackburn 5-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Collodd Caerdydd am y trydydd tro yn olynol yn y Bencampwriaeth, diolch yn bennaf i berfformiad trychinebus yn yr hanner cyntaf yn erbyn Blackburn ym Mharc Ewood.
Mewn tri chwarter awr hunllefus fe sgoriodd y tîm cartref deirgwaith, a megis cysur yn y pen draw oedd gôl gan y capten Sean Morrison cyn i Blackburn wneud hi'n 5-1.
Daeth y gôl agoriadol trwy ergyd isel Sam Gallagher (24), ac yna fe rwydodd Ben Brereton-Diaz ddwywaith - wedi 32 o funudau ac yn y munudau ychwanegol.
Fe wnaeth Mick McCarthy ddau newid i'r tîm ar gyfer yr ail hanner ond fe aeth pethau o ddrwg i waeth serch hynny wedi i Tryhys Dolan (53) rwydo pedwaredd gôl Blackburn.
Rhyw bum munud wedi hynny roedd yna lygedyn o obaith y gallai'r Adar Gleision daro'n ôl wedi gôl Morrison.
Roedd yna gyfleodd pellach - bu'n rhaid i golwr Blackburn, Thomas Kaminski gyfeirio peniad Mark Harris dros y trawst ac roedd yna ymdrechion hefyd gan Aden Flint a Joel Bagan.
Ond doedd dim gwyrth i achub Caerdydd wedi'r niwed a wnaethpwyd yn hanner cyntaf y gêm ac fe rwbiodd Brereton-Diz halen yn y briw trwy gwblhau ei hat-tric wrth i'r gêm dynnu i'w therfyn.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn llithrio pum safle i 13eg safle'r tabl.