'Disgwyl i gludiadau tanwydd barhau fel arfer'
- Cyhoeddwyd
Mae un o heddluoedd Cymru'n apelio ar bobl i beidio creu ciwiau hir mewn gorsafoedd petrol, gan ddweud bod disgwyl i gyflenwadau tanwydd gyrraedd "yn ôl yr arfer".
Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod mewn cysylltiad â gorsafoedd tanwydd y rhanbarth a bod dim amhariad i gyflenwadau "mwyafrif" y safleoedd.
Bu'n rhaid i rai archfarchnadoedd gau eu gorsafoedd petrol ddydd Gwener oherwydd galw mawr am danwydd.
Roedd yna ragor o drafferthion mewn rhannau o Gymru ddydd Sadwrn gan gynnwys yn archfarchnadoedd Asda Merthyr Tudful a gogledd Caerdydd, Tesco Extra ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Sainsbury's yn Wrecsam a garej cylchdro'r 'Black Cat' ble mae'r A55 a'r A470 yn cwrdd yn Sir Conwy.
Prinder gyrwyr sydd wedi achosi'r trafferthion ac mae disgwyl i Lywodraeth y DU amlinellu cyn diwedd y penwythnos sut maen nhw'n bwriadu mynd i'r afael â'r sefyllfa.
Y disgwyl yw y byddan nhw'n sefydlu cynllun fisa dros dro, fydd yn galluogi tua 5,000 o yrwyr o dramor i gael gweithio ym Mhrydain.
Maen nhw'n debygol hefyd o gyhoeddi cynlluniau i hyfforddi rhagor o yrwyr.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd mewn datganiad ar-lein eu bod "yn ymwybodol o'r pryderon" sy'n cael eu crybwyll yn adroddiadau'r wasg a'r cyfryngau ynghylch cyflenwadau tanwydd.
"Rydym mewn cysylltiad â gorsafoedd tanwydd yn y rhanbarth sy'n dweud bod dim amhariad i gludiadau ym mwyafrif y safleoedd ac mae disgwyl i gludiadau tanwydd barhau yn ôl yr arfer.
"Rydym yn annog y cyhoedd i beidio creu ciwiau hir mewn gorsafoedd petrol ac achosi tagfeydd diangen ar ffyrdd, gyda'r potensial o achosi niwed i gerddwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd."
Mae'r lle hefyd yn apelio ar yrwyr i adael cerbydau brys sydd tu ôl iddyn nhw mewn ciw am betrol neu ddiesl fynd o'u blaenau "fel eu bod yn gallu cario ymlaen i gadw'r gymuned yn ddiogel ac ymateb i argyfyngau".
Mae rheolwr gorsaf betrol yn Rhondda Cynon Taf yn dweud bod "dim rheswm" dros y sefyllfa a arweiniodd i'r safle redeg allan o danwydd ddydd Gwener.
Fe ddigwyddodd hynny er i Mohammed Ali benderfynu cyfyngu tanwydd i £15 y car yng ngarej Murco Glynrhedynog.
Dywedodd bod y lle wedi prysuro'n aruthrol ddydd Gwener wedi i'r cyfryngau "wneud môr a mynydd o'r sefyllfa" a bod yna giwiau eto ben bore Sadwrn.
"Gawson ni delivery am chwech o'r gloch y bore ac agor am saith... mae hi'n anhrefn yna yn barod," wrth raglen Breakfast BBC Radio Wales.
"Does dim angen am hyn. Does dim prinder tanwydd."
Mae'r corff sy'n cynrychioli diwydiant cludiant y DU'n amcangyfrif bod angen 100,000 yn fwy o yrwyr lorïau HGV a bod y pandemig a Brexit wedi gwaethygu'r sefyllfa.
Dywed Jason Edwards, pennaeth cwmni Edwards Coaches yn Llantrisant, ei fod yn derbyn galwadau am help yn ddyddiol gan gwmnïau eraill sy'n cael trafferth cadw cytundebau bysiau ysgol oherwydd prinder gyrwryr.
Mae'r broblem wedi codi, meddai, yn sgil cynnydd yng nghyflogau gyrwyr gan fod cwmnïau eisoes wedi cytuno ar delerau sy'n cyfyngu ar gost y cytundeb.
Ychwanegodd Mr Edwards bod gyrwyr a cherbydau wedi grofod gadael awr yn gynt ddydd Gwener i gyrraedd ysgolion oherwydd ciwiau tu allan i orsafoedd petrol.
Rhybuddiodd y bydd y trafferthion yn "gwaethygu... oni bai bod yr Adran Drafnidiaeth yn caniatáu trwyddedau gwaith Ewropeaidd dros dro".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod "mwy na digon o gyflenwadau tannwydd" a'u bod yn edrych ar gyflwyno mesurau dro dro am gyfnod penodol.
Ychwanegodd: "Rydym yn symud at economi gyda chyflogau a sgiliau uchel a bydd angen i fusnesau addasu gyda mwy o fuddsoddi mewn recriwtio a hyfforddi i sicrhau gwydnwch hirdymor."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2021
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd3 Medi 2021