Prinder gyrwyr lorïau yn debygol o godi pris bwyd
- Cyhoeddwyd
Dywed cwmnïau lorïau bod prinder dybryd o yrwyr yn debygol o godi prisiau bwyd ac achosi prinder os nad yw Llywodraeth y DU yn gweithredu ar frys.
Mae'r rheolau mewnfudo newydd yn sgil Brexit yn golygu nad ydy gyrwyr o'r UE â hawl i weithio yn y DU.
Eisoes mae prinder gyrwyr yn achosi oedi wrth gludo nwyddau ac mae yna brinder o rai eitemau - yn eu plith gwin a sment.
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod y system fewnfudo newydd yn ei gwneud yn glir y dylai cyflogwyr ganolbwyntio ar weithlu domestig yn hytrach na dibynnu ar weithwyr o dramor.
Mae'r llywodraeth yn dweud ei bod yn gweithio gyda'r sector cludo nwyddau i hybu swyddi, hyfforddi a mentrau eraill er mwyn denu mwy o bobl yn yrwyr lorïau.
Dywed Rhys Roberts, sy'n berchen ar gwmni cludiant da byw L E Jones yn Rhuthun bod "prinder dreifars yn broblem gyffredinol".
"Mae gynnon ni jyst digon o ddreifars i faint o loris sydd gynnon ni. Allwn ni ddim cynyddu i gael mwy o loris achos does dim dreifars ar eu cyfer nhw," meddai.
"Does yna ddim parch at ddreifars lori yn y wlad yma i gymharu â be' sy' na yn Ffrainc.
"Dwi'n meddwl bod gan ddreifar lot o responsibilty pan mae o ar y ffordd - dylai bo' nhw'n cael mwy o barch a mwy o gyflog.
"'Dan ni'n trio recriwtio ar hyn o bryd - ond methu, methu, methu."
Mae cwmni cludo Owens o Lanelli wedi colli 50 o yrwyr.
Dywed y rheolwr Ian Jarman bod y cyfan yn achosi oedi ac os nad yw'r DU yn gweithredu'n fuan fydd nwyddau yn hir cyn cyrraedd cartrefi a bydd llai o nwyddau ar y silffoedd.
"Yn ystod y pandemig roedden yn cael ein gweld yn ddiwydiant pwysig yn cludo nwyddau ar draws y DU - os nad yw pethau'n gwella bydd yna lawer llai o nwyddau'n cael eu cludo yn y dyfodol," meddai.
Dywed Daniel Lambert, sy'n mewnfudo gwin i'w warws ym Mhen-y-bont cyn ei werthu i dafarndai, bwytai ac archfarchnadoedd, bod oedi eisoes.
"Mae'r sefyllfa yn eitha' gwael ar y funud. Mae ailagor yr economi yn rhoi mwy o bwysau ar gludwyr nwyddau," meddai.
"Mae un cwmni, a oedd yn arfer cludo ein nwyddau i Ddyfnaint a Chernyw, 24 awr y dydd, bellach ond yn gweithredu dri neu bedwar diwrnod.
"Beth ry'n wedi ei weld hefyd ers Brexit yw bod yr amser mae'n cymryd i gludo nwyddau wedi codi'n sylweddol."
Ychwanegodd: "Chwe mis ers Brexit mae loris dal yn wynebu oedi mewn porthladdoedd - rwy'n gwybod am gwmni sydd â 550 cynhwysydd o win yng Ngwlad Belg a dyw e ddim yn gallu dod i'r DU am nad yw'r gwaith papur yn iawn.
"Dyw nifer o gynhyrchwyr, pobl sy'n gweithio mewn gwinllannoedd dal ddim yn sicr sut mae cwblhau y gwaith papur.
"Dydyn nhw ddim wedi gadael yr UE ond maen nhw'n gorfod delio gyda Brexit," meddai Mr Lambert.
Ers 1 Ionawr 2021 mae'r DU yn rhoi blaenoriaeth i ddinasyddion o'r UE sydd â sgiliau uchel ond dyw gyrwyr lori ddim yn cael eu hystyried yn y categori hwnnw.
Ychwanegodd Mr Jarman: "Dyw'r diwydiant ddim yn cael ei ystyried yn gyflogaeth sgil uchel - ry'n yn lefel 2 neu 3 ac felly i raddau ddim yn cael llawer o sylw gan y llywodraeth yn ganolog. Ry'n yn galw ar y llywodraeth i newid hyn."
Dywedodd hefyd fod y pandemig wedi achosi problemau pellach wrth i bobl fethu hyfforddi na chael prawf i fod yn yrwyr cymwys.
Mae prif weithredwr Y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd wedi anfon neges at Lywodraeth y DU yn dweud bod yn rhaid gweithredu ar frys.
"Os na fydd gweithredu buan bydd ymdrechion Llywodraeth y DU i ailadeiladu Prydain yn dioddef," medd Richard Burnett.
"Fydd dim modd cyflenwi yn gyson a delio gyda'r galw cynyddol am fwyd a diod yn sgil tywydd poeth a llacio'r cyfnod clo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021