Dim S4C i rai gwylwyr yn sgil larwm tân yn Llundain
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi ymddiheuro wedi amhariad i'w gwasanaeth nos Sadwrn a bore Sul, a gafodd ei achosi gan larwm tân mewn canolfan ddarlledu yn Llundain.
O ganlyniad doedd dim modd i bobl sy'n gwylio'r teledu ar lwyfan Freeview weld rhaglenni'r sianel am ran fwya'r noson.
Roedd S4C yn dal i ddangos rhaglenni E4 ar lwyfan Freeview ddydd Sul wrth i'r problemau barhau ond roedd y gwasanaeth wedi ei adfer erbyn canol y bore.
Cafodd gwylwyr eu hannog i ddefnyddio gwasanaeth Clic y sianel yn hytrach, tra bod cwmni Red Bee Media, sy'n gyfrifol am dechnoleg darlledu nifer o sianeli - yn gweithio i adfer gwasanaethau.
Mae Channel 4 a Channel 5 hefyd wedi ymddiheuro wedi i'r sefyllfa effeithio ar eu gwasanaethau nhw hefyd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd S4C mewn datganiad nos Sadwrn: "Yn sgil larwm tân mewn canolfan dosbarthu lluniau teledu yn Llundain nos Sadwrn, fe gollwyd lluniau S4C ar lwyfan Freeview am ran fwya'r noson.
"Nid oedd darllediadau S4C ar Sky, Fresat, Virgin Media, S4C Clic na BBC iPlayer wedi ei heffeithio.
"Ymysg y sianeli eraill gafod eu heffeithio roedd; BBC, ITV, C4, C5, Paramount a E Music
"Mae S4C yn ymddiheuro i bawb fethodd weld eu hoff raglenni nos Sadwrn."
Mewn datganiad pellach fore Sul dywedodd y sianel: "Yn anffodus mae'r problemau technegol ar Freeview yn parhau.
"Rydym yn gobeithio dychwelyd y gwasanaeth cyn gynted â bo'r modd. Mae S4C ar gael o hyd ar Sky, Virgin, Freesat S4C Clic a BBC iPlayer."
Roedd y gwasanaeth wedi ei adfer cyn 10:30.
Dywedodd Red Bee Media: "O ganlyniad i'r digwyddiad yma, a'r mesurau diogelwch awtomatig oedd mewn grym ar y pryd, mae nifer o wasanaethau sy'n deillio o'r ganolfan ddarlledu wedi cael eu hamharu."
Ychwanegodd llefarydd na fyddan nhw'n gwneud datganiad pellach nes eu bod wedi cynnal ymchwiliad llawn i'r achos.