Covid: Mwy na 6,000 bellach wedi marw yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Mae dros 6,000 o bobl yng Nghymru wedi marw gyda Covid-19 wrth i 15 o farwolaethau cael eu cofnodi yn y 24 awr hyd at 9:00 ddydd Iau.
Yn ôl dull Iechyd Cyhoeddus Cymru o gofnodi, mae'r cyfanswm marwolaethau bellach yn 6,005.
Cadarnhawyd 3,130 o achosion newydd o'r feirws hefyd, gan ddod â'r cyfanswm ers dechrau'r pandemig i 392,282.
Mae'r gyfradd achosion am bob 100,000 o bobl dros saith diwrnod wedi gostwng ychydig - o 531.9 i 531.7.
Mae'r cyfraddau uchaf yn siroedd Torfaen (709.9), Chaerdydd (705.4) a Bro Morgannwg (696.9).
Merthyr Tudful sydd â'r gyfradd isaf (363.0), gyda Blaenau Gwent (367.9) yn ail a Cheredigion (383.8)) yn drydydd.
Mae 2,405,335 o bobl nawr wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn a mae 2,233,773 wedi derbyn cwrs llawn.