Pryder ynghylch cynllun posib i ymestyn Chwarel Dinbych

  • Cyhoeddwyd
Chwarel Dinbych

Mae rhai o drigolion Dinbych yn poeni am gynlluniau posib i ymestyn chwarel y dref.

Er fod perchnogion y safle yn pwysleisio nad ydy'r cynllun wedi ei gyflwyno yn swyddogol eto, mae 'na bryder am ddyfodol un o brif lwybrau cerdded a chaeau gwyrdd yr ardal.

Mae'r caeau ar gyrion y chwarel yn boblogaidd iawn â cherddwyr, a thrwy'r caeau mae'r llwybr sy'n arwain at goedwig Crêst.

Gwaith cynhyrchu cerrig mân a graean sy'n y chwarel, a bwriad cwmni Breedon ydy ymestyn y safle.

Mae'r cyhoedd wedi cael cyfle i weld y cynlluniau cychwynnol - cynlluniau sy'n cynnwys ail-leoli'r llwybr cyhoeddus a phlannu coed newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna gyfle ddydd Iau i drigolion lleol weld cynlluniau cwmni Breedon

Mae'r cwmni'n pwysleisio'n bendant nad oes 'na gais swyddogol wedi ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych eto.

Cam cynta'r broses ymgynghori sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac mae cwmni Breedon yn awyddus i glywed barn y bobl.

Ond, mae rhai sy'n byw wrth ymyl y caeau yn poeni'n arw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellie Lilley'n gwrthwynebu'r cynlluniau posib

"Dwi'm yn dallt sut neith o weithio, achos dyma'r path i ddod i fyny fan hyn," meddai Ellie Lilley.

"Ma' nhw just am cym'yd chunk o'r canol, a lle 'dan ni fod i fynd?

"'Dan ni'n mynd i fyny i'r coedwig... 'dan ni'n ca'l cinio yna, brecwast weithia. Fydd o just yn collad mawr, dwi'n meddwl, i pawb, dim just fi."

'Mwy o sŵn a lludw'

Un arall sy'n danbaid yn erbyn y cynllun i ymestyn ydy Mair Jones, sy'n byw yn y dre ac yn aelod Ymgyrch SOGS (Save Our Green Spaces) Dinbych.

"Mae'r caea' yma'n golygu gymaint i bobl lleol," meddai. "Mi fydd pobl, a ni, yn gorfod cerdded reit rownd i gael access i'r coed.

"Os 'di'r estyniad yn digwydd, fydd effaith y sŵn yn fwy, fydd y lludw yn fwy, fydd y cracie yn y tai yn fwy.

"Bydd yn effeithio ar mwy o bobl achos mi fydd y chwarel yn lot agosach i'r tai yn fan'cw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mair Jones yn danbaid yn erbyn y posibilrwydd o ymestyn y chwarel

"Ma'r cyngor sir wedi datgan climate emergency... ma'r coed 'ma i gyd yn mynd i gael eu torri lawr.

"Mae Breedon yn d'eud fyddan nhw'n plannu coed newydd... sori, ma'r climate emergency rŵan.

"'Dan ni'm angen y coed 'ma mewn 20 mlynedd, 'dan ni angen y coed rŵan."

Ychwanegodd Ms Jones bod angen gwaith yn yr ardal, ond bod "lot o gynllunie' gwyrdd lleol yn dechre' codi" y dylid eu hystyried yn hytrach.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn cerdded ar hyd caeau ger y chwarel er mwyn mynd i Goedwig Crêst

Doedd cwmni Breedon ddim am roi sylw ar y mater ar hyn o bryd.

Yn ôl Cyngor Sir Ddinbych, fe fyddan nhw'n gofyn am farn y cyhoedd os daw cais cynllunio i law.

Pynciau cysylltiedig