Will Vaulks a Ben Cabango yn ymuno â charfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Will Vaulks a Ben CabangoFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae'r chwaraewr canol cae Will Vaulks a'r amddiffynnwr Ben Cabango wedi cael eu hychwanegu i garfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn y Weriniaeth Siec ac Estonia.

Bydd y ddau yn cymryd lle yr amddiffynwyr Rhys Norrington-Davies a Tom Lockyer, sydd wedi gorfod tynnu yn ôl oherwydd anafiadau.

Roedd Cabango yn absennol o'r garfan ddiwethaf ym mis Medi oherwydd Covid, tra bod Vaulks wedi cael ei alw am y tro cyntaf ers blwyddyn.

Mae Aaron Ramsey ymhlith y chwaraewyr sydd wedi ymuno gyda'r garfan yng Nghaerdydd, er ei fod wedi methu dwy gem ddiwethaf Juventus oherwydd "blinder cyhyrol".

Ond fydd y capten Gareth Bale ddim ar gael ar gyfer y teithiau i Prague a Tallinn, a hynny gan ei fod yn parhau i wella o rwyg i linyn y gar.

Bydd Cymru'n herio'r Weriniaeth Siec ar 8 Hydref ac yna Estonia ar 11 Hydref, gan wybod fod yn rhaid ennill y ddwy os am gadw eu gobeithion prin o ennill y grŵp yn fyw.

Ond os mai Gwlad Belg fydd yn gorffen ar y brig fel y disgwyl, mae Cymru eisoes bron yn sicr o le yn y gemau ail gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Carfan Cymru i wynebu'r Weriniaeth Siec ac Estonia:

Golwyr: Wayne Hennessey, Daniel Ward, Adam Davies

Amddiffynwyr: Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Chris Mepham, Joe Rodon, Neco Williams, James Lawrence, Ben Cabango

Canol cae: Aaron Ramsey, Joe Allen, Jonny Williams, Ethan Ampadu, Harry Wilson, David Brooks, Joe Morrell, Matthew Smith, Dylan Levitt, Will Vaulks

Ymosodwyr: Daniel James, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Brennan Johnson, Rubin Colwill, Mark Harris, Sorba Thomas