Owain Wyn Evans: 'Drymio wedi fy helpu drwy gyfnod anodd'

  • Cyhoeddwyd
Owain a'i ddrymiau yn y ty

Mae'r cyflwynydd Owain Wyn Evans yn dweud fod drymio wedi ei helpu drwy gyfnod anodd yn ei fywyd - a hynny wrth iddo baratoi ar gyfer her newydd i godi arian i Blant Mewn Angen.

Llynedd fe aeth Owain yn feiral ar y cyfryngau cymdeithasol wrth iddo ddrymio i gerddoriaeth newyddion y BBC ar ddiwedd un o'i fwletinau tywydd o adref yn ystod y cyfnod clo.

Mae nawr yn gobeithio defnyddio'i sgiliau i godi arian i elusen, wrth iddo daclo her ddrymio 24 awr fis nesaf ynghyd â cherddorion eraill o bob rhan o Brydain.

Bydd yr ymdrech yn dechrau am 08:35 ar 12 Tachwedd, a hynny'n fyw ar raglen BBC Breakfast, ac yn cael ei ffrydio'n fyw ar BBC iPlayer tan y diwrnod canlynol.

'O'n i ddim mas yn llwyr'

Cyn yr her, fe ddychwelodd Owain i fro ei febyd yn Rhydaman a gweld y gwahaniaeth mae arian Plant Mewn Angen eisoes wedi'i wneud i un grŵp theatr ieuenctid yn y dref, Mess up the Mess.

"Mae rhai pobl yn dod achos dydyn nhw ddim yn ffitio mewn yn yr ysgol, mae eraill yn dod achos eu bod nhw'n ofalwr ifanc, falle bod rhywun arall yn dod achos fod e'n ofod saff LGBTQI+," esboniodd y cyfarwyddwr artistig, Sarah Jones.

Fel un oedd yn gwybod ei fod yn hoyw "o oedran ifanc", mae Owain yn dweud mai dyma'r math o ofod y byddai wedi gwerthfawrogi'n fawr fel bachgen ifanc.

"Bydden i wedi hoffi tase rhywle fel Mess Up The Mess wedi bodoli pan o'n i yma yn Rhydaman," meddai'r cyflwynydd.

Disgrifiad o’r llun,

Owain Wyn Evans yn cwrdd â rhai o bobl ifanc mudiad Mess Up The Mess

Drymio oedd un o'r ffyrdd yr oedd yn gallu mynegi ei egni creadigol, a phan oedd yn yr ysgol bu'n chwarae mewn band o'r enw'r Overtones.

"Do'n i heb ddod mas ar y pwynt yma achos ar y pryd roedd Section 28 dal yn bodoli," meddai.

"Byddai rhywun fel fi ddim yn gallu cael ein dysgu unrhyw beth am rywun fel fi - ac er mod i wedi dod mas i rai o'n ffrindiau, do'n i'n bendant heb ddod mas yn llwyr.

"Nes i hyd yn oed fynd 'nôl mewn i'r closet pan ges i'n swydd gynta' gyda'r BBC, achos mod i'n teimlo fel bod rhaid i fi.

"Roedd e'n gyfnod od, ond roedd y drymio yn bendant yn rhywbeth 'naeth helpu fi drwy hynna - 100%."

Disgrifiad o’r llun,

Owain Wyn Evans yn drymio yn ei ddyddiau gyda'r Overtones

Mae nawr yn teimlo'n gryf fod prosiectau fel rhai Plant Mewn Angen yn help mawr i bobl ifanc, wrth iddyn nhw geisio mynegi eu hunain mewn ffyrdd sy'n gyfforddus iddyn nhw.

"Mae hyn wir yn newid bywydau, ac hyd yn oed yn eu hachub nhw," meddai Owain.

"Fi wir yn gobeithio gallwn ni godi lot fawr o arian ar gyfer beth sy'n siŵr o fod yn her anferth. Fi'n poeni am fy mreichiau druan yn barod!"

Bydd rhaglen apêl Plant Mewn Angen yn cael ei darlledu ar y BBC ddydd Gwener, 19 Tachwedd.

Pynciau cysylltiedig