Cael brechiad Covid tra'n feichiog 'wir yn ddiogel'
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhan fwyaf o fenywod beichiog sy'n cael gofal dwys mewn ysbytai am Covid-19 heb eu brechu, yn ôl arbenigwr iechyd cyhoeddus.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi rhybuddio bod cymhlethdodau fel genedigaeth cyn tymor, marw-enedigaeth a chyn-eclampsia ddwywaith yn fwy tebygol i'r rhai sydd â coronafeirws.
Bydd ymgyrch yn cael ei lansio yng Nghymru ddydd Iau yn annog menywod beichiog i gael y ddau frechlyn.
Mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru wedi sicrhau menywod beichiog bod y brechlyn yn ddiogel, ac yn seiliedig ar wyddoniaeth sydd wedi ei defnyddio "ers blynyddoedd lawer".
"Er bod y risgiau dan sylw yn eithaf isel ar y cyfan, mae'r wyddoniaeth yn dangos ei bod yn fwy diogel cael y brechlyn na pheidio â'i gael," meddai Dr Chris Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol gyda ICC.
"Cafwyd llawer o gamwybodaeth am ddiogelwch y brechlynnau yn ystod beichiogrwydd.
"Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil yn cynnwys mwy na 40,000 o fenywod beichiog yn dangos nad yw cael y brechlyn coronafeirws yn cynyddu'r risg o gamesgoriad, geni cyn amser na marw-enedigaeth."
Sarah Aubrey yw arweinydd y cwrs bydwreigiaeth ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae'n gweithio mewn canolfan frechu ar benwythnosau lle mae nifer y menywod beichiog sy'n dod i mewn i gael eu brechu yn dechrau codi, meddai.
"Pan rydyn ni fel bydwragedd yn gweld menywod yn gynnar iawn yn ystod beichiogrwydd, maen nhw fel arfer wedi cael eu brechlyn cyntaf - cyn beichiogrwydd - ond nawr maen nhw'n feichiog maen nhw llai parod i gael eu hail frechlyn.
"Dyna pryd rydyn ni'n eu cyfeirio at y wybodaeth gywir ac yn rhoi'r dystiolaeth fwya' diweddar iddyn nhw, i ddangos bod brechiadau yn ystod beichiogrwydd yn wir yn ddiogel."
Ychwanegodd Ms Aubrey: "Mae ystadegau diweddar yn dangos bod dros 1,700 o dderbyniadau wedi bod i'r ysbyty o fenywod beichiog gyda symptomau Covid yn y Deyrnas Unedig rhwng 1 Chwefror a 30 Medi.
"Yn anffodus allan o'r rheiny, mae 235 wedi cael eu trosglwyddo i'r uned gofal dwys ac rydym yn edrych ar ganran uchel o'r rheiny heb eu brechu."
Mae Fflur Davies yn athrawes feichiog o Ynys Môn, ac er iddi gael y brechlyn cyntaf cyn cael gwybod ei bod yn disgwyl, fe benderfynodd yn erbyn cael ail ddos.
"Erbyn yr apwyntiad cynta' 'efo'r bydwraig, y cyngor eitha' pendant ar y pryd oedd bod nhw'n argymell i beidio [cymryd y brechlyn]," meddai wrth Dros Frecwast Radio Cymru.
"Chwech wsos wedyn oeddan nhw'n d'eud bod o'n fine. Roedd y newid sydyn yna'n eitha' brawychus.
"Dwi'n meddwl na'r broblem ydy'r dystiolaeth tymor hir o ran sut fydd petha' mewn pum mlynadd, ac er dwi'n ffyddiog iawn yn y gymuned iechyd, dydw i just ddim isio cymryd y risg - i fi'n bersonol dwi'n teimlo'n brafiach peidio cael o. Mae o'n 'wbath sy'n pendroni fi'n ddyddiol."
Roedd hi'n cydnabod fod y dystiolaeth am fenywod beichiog heb eu brechu yn fwy tebygol o dderbyn gofal dwys yn "ddychrynllyd".
"Mae'r rhan fwya' o ferched beichiog dwi'n nabod sy' wedi cal dau frechlyn yn rhai sy'n gweithio mewn ysbytai.
"Felly wrach bod exposure nhw a'r petha' maen nhw wedi'i weld yn wahanol. Dwi'n meddwl bod ni gyd yn yr un gwch - ond dydy'r cwch ddim yn wastad. Mae o'n poeni fi'n aml."
Roedd Anna Davies, 36, yn wyth mis yn feichiog pan gafodd gynnig y brechlyn.
Penderfynodd y fam o Gaerdydd i aros tan enedigaeth ei merch cyn derbyn ei dos cyntaf.
Er iddi aros tan ar ôl yr enedigaeth, dywedodd Anna nad oedd hi'n pryderu'n fawr am effaith y brechlyn.
"Doeddwn ni ddim yn poeni amdano fo cymaint.
"O'n i'n eitha unigryw yn y ffordd lle'r oedd rhan fwyaf o'r beichiogrwydd mewn cyfnod lle doedden nhw ddim yn annog chi yn fawr i gymryd y brechlyn.
"Ond wedyn ar gyfer y mis olaf mi 'na'th y cyngor newid ac oedd tystiolaeth i ddweud bod o'n berffaith saff i ferched beichiog gael y brechlyn.
"Mae nhw just eisiau gymaint o bobl â phosib ei gymryd o achos mae hwnna'n amddiffyn pawb wedyn," meddai.
'Ni all roi'r feirws i chi'
Er y pryderon gan rai menywod, mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru wedi ceisio tawelu meddyliau y rhai sy'n poeni.
Dywedodd Sue Tranka: "Hoffwn roi sicrwydd i famau beichiog bod brechlyn y coronafeirws yn seiliedig ar wyddoniaeth sydd wedi'i defnyddio'n ddiogel ar fenywod beichiog ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys brechlynnau sydd eisoes yn cael eu rhoi yn ystod beichiogrwydd fel brechlyn y pâs a'r ffliw.
"Nid yw'r brechlyn a ddefnyddir yn frechlyn byw, felly ni all roi'r feirws i chi.
"Rydym yn gweld mwy o fenywod beichiog heb eu brechu yn yr ysbyty yn ddifrifol wael gyda'r coronafeirws. Gall y brechlyn helpu i amddiffyn mamau a babanod rhag niwed y gellir ei osgoi a gellir ei roi ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd."
Ychwanegodd Dr Chris Johnson: "Rydyn ni'n gwybod nad ydy'r rhan fwyaf o fenywod sy'n feichiog sy'n mynd i'r uned gofal dwys wedi cael eu brechu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2021
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2021