'Cleifion yn gwrthod gofal o achos camwybodaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae camwybodaeth sy'n cael ei ledaenu ar-lein yn arwain at gleifion yn gwrthod gofal neu'n gofyn am driniaethau sydd heb eu profi, yn ôl un meddyg sydd wedi gweithio ar y rheng flaen yn y pandemig.
Dywedodd Dr Ami Jones, ymgynghorydd uned gofal dwys gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ei bod wedi gweld cleifion Covid yn y don ddiweddaraf yn "dechrau gwrthod rhai elfennau o ofal meddygol sylfaenol" ac yn dweud nad ydyn nhw am dderbyn "meddyginiaeth fodern".
Ychwanegodd: "Yn y don ddiweddaraf y gwelon ni'r gwahaniaeth mwyaf, gan fod amheuon am Covid o gwmpas beth bynnag ac yna fe gawson ni'n holl elfennau gwrth-frechu.
"Ond dwi'n credu mai'r drydedd don yw'r unig dro i ni weld cleifion oedd yn dweud 'mae hyn yn nonsens... dydw i ddim am gael brechiad a dwi ddim yn credu yn hyn'. Mae hynny'n anodd iawn.
"Roedd rhai hefyd yn dweud 'dydw i ddim am i chi rhoi fi mewn peiriant anadlu fydd yn fy lladd i'. Yn amlwg mae tipyn o bobl ar beiriannau anadlu yn marw, ond mae hynny am eu bod nhw'n ddifrifol wael yn y lle cyntaf i fod angen peiriant anadlu."
Mae Dr Jones hefyd wedi gofalu am gleifion sydd wedi bod yn sâl gyda Covid ar ôl gwrthod brechlynnau sydd wedi'u cymeradwyo yn y DU, ond hefyd am gael meddyginiaethau "arbrofol" sydd "heb gael eu profi'n iawn".
Mae hi wedi gwrthod gorchymyn gan rhai aelodau o deuluoedd cleifion i roi'r cyffur Ivermectin iddyn nhw - cyffur gwrth-barasitig y mae awdurdodau iechyd yn y DU, America a'r Undeb Ewropeaidd wedi dweud nad oes tystiolaeth ddigonol am ei ddefnyddio yn erbyn Covid.
Bu Dr Jones yn ymgynghorydd Gofal Dwys ers 10 mlynedd, a dywedodd ei bod yn galed i ofalu am gleifion gyda symptomau difrifol "pan ydych chi'n credu y gellid fod wedi osgoi hyn".
Ychwanegodd mae'r her fwyaf i staff iechyd proffesiynol a'r llywodraeth yw taclo gwybodaeth am frechlynnau.
Dywedodd: "Os na fyddwn ni'n parhau i siarad am hyn, y cwbl sydd ar ôl yw camwybodaeth a data wedi ei gamystumio... rwy'n credu fod rhaid i glinigwyr barhau i geisio egluro'r data a dweud beth maen nhw'n ei weld mewn ysbytai."
Mae'r Athro Martin Innes wedi bod yn arwain rhaglen ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn edrych ar gamwybodaeth ar draws Ewrop dros y tair blynedd diwethaf.
Dywedodd: "Rwy'n credu ei bod yn bwysig ceisio cydnabod na wnaeth pryderon y cyhoedd a phryderon gwleidyddol ddechrau gyda'r pandemig, ond mae hi fel tase'r pandemig wedi chwyddo a chyflymu materion o'r fath."
Annog gwrando ar 'ffynonellau dibynadwy'
Dywedodd bod angen i Lywodraeth Cymru "gymryd cyfrifoldeb", ac y gallai ei gallu i greu polisïau a gwasanaethau "ddiodde' oherwydd y bydd camwybodaeth yn cael ei ddenu gan y math yma o beth".
Ychwanegodd: "Unwaith y byddwch chi'n trafod iechyd cyhoeddus lle mae pobl yn gallu mynd yn sâl iawn neu farw, yna mae'r synnwyr o niwed sy'n cael ei achosi gan gamwybodaeth neu wybodaeth gamarweiniol yn dod yn fwyfwy amlwg."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chymunedau i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon sydd gan unigolion a helpu i fynd i'r afael â chamwybodaeth.
"Rydyn ni'n gwneud hyn trwy weithio gyda phartneriaid dibynadwy i ddarparu gwybodaeth gywir y gall pobl ei defnyddio i wneud penderfyniadau gwybodus.
"Rydym yn annog pawb i gymryd eu gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy fel y gallant wneud penderfyniadau ar eu gofal iechyd yn seiliedig ar wybodaeth gywir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2021
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021
- Cyhoeddwyd31 Awst 2021