Cofnodi 18 marwolaeth a 2,171 achos Covid newydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Prawf PCRFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 18 marwolaeth yn rhagor yn gysylltiedig â Covid-19 wedi cael eu cofnodi yn ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl dull ICC o gofnodi, mae'r cyfanswm marwolaethau bellach yn 6,260.

Cadarnhawyd 2,171 o achosion newydd o'r feirws hefyd, gan ddod â'r cyfanswm ers dechrau'r pandemig i 463,279.

Mae'r ffigyrau'n berthnasol i'r 24 awr hyd at 09:00 ddydd Mawrth, 9 Tachwedd.

Mae'r gyfradd achosion am bob 100,000 o bobl dros gyfnod o saith diwrnod wedi gostwng ychydig eto, o 527.7 ddoe i 510.4.

Mae'r cyfraddau uchaf yn parhau ym Mro Morgannwg (705.9), Torfaen (705.6) a Chaerffili (601.4).

Dim ond tair sir sydd â chyfraddau is na 400, sef Ynys Môn (322.7), Conwy (366.0) a Rhondda Cynon Taf (399.6).

Mae 2,454,261 o bobl wedi cael un dos o'r brechlyn a 2,249,934 wedi cael dau frechiad.

Mae'r cyfanswm o bobl yng Nghymru sydd hefyd wedi derbyn brechlyn atgyfnerthu bellach wedi codi i 555,322.