Casnewydd yn penodi Rowberry fel rheolwr newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi penodi James Rowberry fel rheolwr newydd.
Daw penodiad Rowberry yn dilyn ymadawiad y cyn-reolwr Michael Flynn yn gynharach y mis hwn.
Mae Rowberry wedi gweithio gydag academi Casnewydd yn y gorffennol, ac mae hefyd yn gyn-hyfforddwr gyda Chaerdydd.
Dywedodd yr Alltudion mewn datganiad y byddai Rowberry wrth y llyw ar gyfer y gêm yn erbyn Bristol Rovers ddydd Sadwrn.
Ychwanegodd y clwb bod y penodiad yn dod ar ôl "chwilio eang am y person iawn i fynd â Chasnewydd ymlaen".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2021