Mike Flynn i adael Casnewydd ar unwaith

  • Cyhoeddwyd
Mike FlynnFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae rheolwr clwb pêl-droed Casnewydd, Mike Flynn, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y clwb ar unwaith.

Mae Flynn wedi rheoli'r Alltudion ers 2017 ac roedd ganddo gytundeb hyd at ddiwedd y tymor.

Yn ystod ei bedair blynedd gyda'r clwb llwyddodd i gadw Casnewydd yn Adran Dau cyn arwain nhw i ddau ymgyrch yn y gemau ail-gyfle.

Llwyddodd hefyd i gyrraedd rowndiau hwyr sawl cwpan, gan gynnwys gêm fythgofiadwy yn erbyn Manchester City yn Rodney Parade yng Nghwpan yr FA yn 2019.

Ond er i dîm Flynn ddod o fewn trwch blewyn i gyrraedd Adran Un y tymor diwethaf, maen nhw wedi methu i ailadrodd perfformiadau'r llynedd.

Mae'r Alltudion ond wedi ennill un o'i pum gêm ddiwethaf ac yn eistedd yn 15ed yn y cynghrair.

Yn dilyn y golled 2-1 yn erbyn Barrow nos Wener dywedodd Flynn ei fod yn gwrthod cymryd y bai am y perfformiad "llwfr" ei dîm.

"Dwi'n cymryd y bai weithiau, ond dwi ddim yn cymryd hwnna, dim ots gen i," meddai wrth y BBC.

Bydd ei gynorthwy-ydd, Wayne Hatswell yn cymryd yr awenau am weddill y tymor.

Wrth adael, dywedodd Flynn: "Hoffwn ddiolch i Gasnewydd am roi'r cyfle i mi gyda fy swydd gyntaf fel rheolwr, ond gyda thristwch rwy'n teimlo mai dyma'r amser iawn i gamu o'r neilltu.

"Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Gasnewydd i'r dyfodol."