Rhoi'r gorau i drin gwallt i yrru bysys

  • Cyhoeddwyd
teithioFfynhonnell y llun, NTfW
Disgrifiad o’r llun,

Abby Griffiths sydd wedi derbyn gwaith fel gyrrwr i gwmni Llew Jones Coaches

"Yn yr ysgol wnes i erioed sôn bo' fi isio gyrru bysys, o'n i'n deud bo' fi isio torri gwallt, ond o'n i'n gwybod yn ifanc mai gyrru bysys o'n i isio 'neud jest o'n i'n rhy embarassed."

Dyna eiriau Abby Griffiths, un o ferched ieuengaf y wlad i ennill cymwysterau gyrru bysys a choetsys. Mae Abby, sy'n 19, yn dilyn ôl traed ei thad a'i brawd sydd hefyd yn yrwyr bysys.

Ond tydi'r lôn at ei gyrfa ddelfrydol heb fod yn un mor rhwydd i Abby fel merch ifanc, ag oedd i'w brawd Jack, a'i thad Anthony.

Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda Abby am chwalu stereoteip ym myd gwaith, a mentro i fyd sydd â dynion yn llywio'r olwyn gan amlaf.

Mentro i 'fyd dynion'

Dim ond 4 mis sydd ers i Abby gymhwyso fel gyrrwr bysys a choetsys nôl ar ddechrau haf 2021 ac mae hi eisoes wedi derbyn swydd fel gyrrwr i gwmni Llew Jones Coaches yn Llanrwst. Ond bu penderfynu dilyn gyrfa fel gyrrwr yn broses hirach na derbyn ei swydd gyntaf. Eglura Abby:

"Wnes i adael Ysgol Dyffryn Conwy yn 16 a nes i drio 'neud gwallt ond nes i rili ddim mwynhau o felly nes i weithio fel cleaner a nes i 'neud waitressing yn yr Eagles yn Llanrwst. Doedd yr un o rheina i fi.

"Dwi'n cofio fel plentyn helpu dad i ll'nau'r bysys ysgol oedd o'n yrru ac wedyn pan o'n i'n rhyw 13/14 oedd gen i ddiddordeb mewn gyrru bysys.

Ffynhonnell y llun, Abby Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anthony, tad Abby, wedi ei chyflwyno i gerbydau o bob math erioed

"Ond yn yr ysgol wnes i 'rioed sôn bo' fi isio gyrru bysys, o'n i'n deud bo' fi isio torri gwallt, ond o'n i'n gwybod go wir mai gyrru o'n i isio 'neud jest o'n i'n rhy embarrassed i ddeud.

"Roedd Dad yn gwybod 'mod i isio bod yn yrrwr fel fo. Ro'n i'n deud wrtho, "Dad dwi am 'neud hyn, dwi'n gaddo".

"Mocha o gwmpas a jocio oeddan ni ond wedyn na'th y lockdown cynta' ddigwydd a dyma Dad yn deud wrtha i, "Pam 'na wnei di ddysgu 'neud o, mae o'n dda, ti'n licio gyrru a wnei di fwynhau o." Dyna oedd yr hwb o'n i angen.

"Wnes i weld sens a mynd amdano fo, a sylwi, does 'na ddim byd i fod yn embararssed a deud y gwir. Mae lot o fy ffrindia' yn gobsmacked ond yn falch 'mod i'n 'neud be' o'n i isio o'r diwadd."

Ffynhonnell y llun, NTfW
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffrindiau Abby yn gegrwth ei bod wrth y llyw o'r diwedd

Denu merched i faes trafnidiaeth

Yn ôl Jane Brown, cyfarwyddwr Llew Jones Coaches a chyflogwr Abby, oedran cyfartalog eu gyrwyr ydi 57, ac allan o 70 o bobl sy'n gweithio i'r cwmni, dim ond 7 sy'n ferched. Meddai Jane:

"Yn y gorffennol, roedd gyrru'n cael ei gyfrif yn waith i ddynion am ei fod yn fwy corfforol pan nad oedd gan fysiau system pŵer-lywio. Mae hynny'n wahanol erbyn hyn a does dim ots ai dynion neu ferched yw'r gyrwyr.

"Rydan ni'n ceisio denu pobl ifanc, dynion a merched, i ystyried gyrru fel gyrfa. Mae'r gwaith yn cynnig amrywiaeth, cyfle i ymwneud â phobl, cyfleoedd i deithio ledled Prydain ac Ewrop ac i symud ymlaen yn eich gyrfa. Mae Abby'n gwneud yn wych ac yn gyrru ein coetsys mwyaf a drutaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae galw am fwy o ferched i yrru bysys a choetsys

Er mwyn derbyn ei thrwydded PSV bu'n rhaid i Abby basio profion theori a phrofion ymarferol. Eglura Abby:

"Roedd 'na bump prawf i gyd, a doedd 'na'm tests yn digwydd oherwydd y cyfnodau clo ar rai adega' felly cafodd sawl prawf ei ganslo, wnes i fethu'r prawf unwaith a phasio'r eilwaith, wedyn dechrau gweithio.

"Mae gyrru bysys a choetsys yn wahanol iawn i yrru car. Mae popeth yn wahanol; ti'n gyrru rhywbeth sy'n andros o hir, ti angen edrych yn y mirrors lawer mwy, gen ti lot o bobl yn siarad a mae angen canolbwyntio lot mwy."

Ffynhonnell y llun, Abby Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Abby a'i brawd Jack yn 'chwarae gyrru' pan oeddent yn fach; mae'r ddau bellach yn yrwyr bysys a choetsys

'Jest gwna fo'

Ar hyn o bryd mae Abby'n gyrru'r bws i blant Ysgol Dyffryn Conwy, ei hen ysgol hi. Wrth wneud ei thaith hyd strydoedd ei milltir sgwâr mae'n gobeithio y bydd merched ifanc ei hardal yn gweld y gall merched wneud unrhyw beth.

Meddai Abby: "Pan o'n i'n ysgol doedd dim genod yn mynd i 'neud mechanics na bricklayer na dim byd fel'na. Mae angen i bobl ifanc wybod bod unrhyw waith yn bosib iddyn nhw. Jest cer am be' bynnag ti isio 'neud, jest gwna fo. "

Wrth feddwl am ddyfodol ei gyrfa ei hun mae Abby'n edrych ymlaen at droi yn 20 er mwyn cael cludo pobl ymhellach na 50km, a'i gôl ymhen rhai blynyddoedd ydi bod yn yrrwr ar dripiau sgïo ysgolion i wledydd Ewrop.

Meddai Abby: "Swn i'n licio mynd i Andorra ar dripiau sgïo ysgol, mae Dad a Jack wedi neud hynna lot. Fasa'n braf mynd efo Dad ar y tour cynta a chael bach o amsar i sgïo hefyd."

Ffynhonnell y llun, Abby Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae gyrru yn y gwaed i Abby (ar y dde), ei thad Anthony (chwith), a'i brawd Jack (canol)

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig