Hannah Daniel: Gwaith, gyrfa a bod yn fam

  • Cyhoeddwyd
Hannah DanielFfynhonnell y llun, Hannah Daniel

Mae Hannah Daniel o Gaerdydd ar fin dechrau ffilmio'r drydedd gyfres o Un Bore Mercher / Keeping Faith i S4C a BBC. Hefyd, ymhen rhai misoedd bydd yn chwarae rhan doctor mewn cyfres ddrama iasol newydd i S4C.

Mae'r actores sy'n byw yn Crystal Palace yn Llundain gyda'i phartner a'u babi tri mis oed, Moris Emyr, yn dweud bod y profiad o ddod yn fam yn rhywbeth na allai fod wedi paratoi ato'n iawn.

"Mae yna lot o ffwdan erbyn hyn [o gwmpas cael babi]. O siarad gyda Mam, fi ddim yn credu o'dd gymaint o ffwdan yn ei dyddie hi. Fe wnes i ymuno â grŵp NCT [National Childbirth Trust] yn Crystal Palace, fel bo' fi'n cyfarfod â chymuned o famau newydd.

"Oedd yna sôn am sut i baratoi ar gyfer rhoi genedigaeth, fel hypnobirthing, ac o'n i'n meddwl mod i'n mynd i anadlu trwy'r holl beth, rhoi olew aromatherapi ar fy pulse points pan o'n i'n teimlo ychydig o boen...!

"Ond ti'n edrych nôl, a ti'n meddwl… o'n i'n cyrraedd yr ysbyty… a mae'n bwrw ti fel dwi ddim yn gwybod beth!"

Teimlo hiraeth am adre'

Ers i Moris Emyr gael ei eni, mae Hannah a'i phartner, yr actor Richard Harrington, yn teimlo hiraeth am Gaerdydd, a thynfa yn ôl i'r ddinas lle cafodd hi ei magu, meddai.

"Ers cwympo yn feichog a chael y babi, mae'n od, mae'r pull am adre' wedi dechre. Fi wedi sylweddoli faint o symud o gwmpas dwi'n 'neud a mae'n anodd pan mae gen ti fabi, felly mae 'na sôn am symud adre'.

"Mae gan Richard ddau fachgen yng Nghaerdydd a mae'n gweld eisiau nhw, felly rydyn ni yn ysu i symud yn ôl."

Ers i Hannah Daniel ymddangos yn ei chyfres deledu gyntaf yn chwarae rhan Beca Matthews, yr athrawes ymarfer corff yn Gwaith/Cartref ar S4C, rôl a oedd yn "drobwynt yn ei bywyd fel actores," aeth ymlaen i chwarae DS Sian Owens yn Y Gwyll / Hinterland, ac mae wedi ymddangos ar Eastenders a Holby City yn ddiweddar.

Disgrifiad o’r llun,

DC Lloyd Ellis (Alex Harries), DI Mared Rhys (Mali Harries) a DS Sian Owens (Hannah Daniel) yn Y Gwyll

Mae ar fin dychwelyd am y drydedd gyfres, i rôl y gyfreithwraig, Cerys Jones yn Un Bore Mercher / Keeping Faith.

"Dw i'n edrych ymlaen i ddechre gweithio eto. Fe ddywedes i ‚'ie' [i'r swydd], cyn cael y babi, a mae'r amser wedi hedfan.

"Mae'r bybl babi intense wedi codi dwi'n credu, sydd yn beth da, achos dyna'i gyd o'n i am 'neud oedd eistedd yn y fflat yn syllu ar Moris.

"O'n i'n mynd allan gyda ffrindiau a jyst yn siarad am newid nappies yn ddi-baid, so dwi yn eitha' balch bod 'na rhywbeth arall ar y gweill."

Mae'r ymateb i'r gyfres, sydd hefyd yn serennu Eve Myles fel cymeriad Faith, wedi ennyn llawer o ymateb yng Nghymru a thu hwnt, ac mae Hannah yn falch o fod wedi cael y cyfle i chwarae rhan benywaidd cryf unwaith eto.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Hannah Daniel fel Cerys Jones yn Un Bore Mercher

"Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel.

"Fi'n credu bod lot o hynna oherwydd Eve [Myles] fel actores, fi'n credu bod lot wedi uniaethu gyda'i chymeriad hi.

"Mae'n ddiddorol gweld protagonist benywaidd sydd ddim yn berffaith, mae hwnna wedi bod yn refreshing iawn.

"Ac o ran fy nghymeriad i, roedd yn hyfryd chwarae cymeriad benywaidd cryf. Mae'n swnio yn beth clichéd iawn, ond mae e'n beth prin dal i fod, i gael cast o gymeriadau benywaidd cryf.

"Dwi 'di llwyr fwynhau."

Disgrifiad o’r llun,

Hannah Daniel ac Eve Myles

Fel Keeping Faith, fe ddaeth cyfres Y Gwyll / Hinterland ag enwogrwydd i'r cast y tu hwnt i'r Gymru, a chafodd Hannah a Richard Harrington sylw annisgwyl pan oedden nhw ar eu gwyliau yn yr Unol Daleithiau.

"Aethon ni ar wylie i Califfornia blwyddyn diwetha', a rhentu RV - fel carafan fawr - ac aethon ni i bigo hi lan yng nghanol nunlle tu allan i Los Angeles, ac oedd y dyn oedd yn rhentu'r garafan i ni yn ffan o Y Gwyll!

"Oedd e'n gwybod gymaint am yr iaith Gymraeg o fod wedi gwylio fe.

"Roedd [cael rhan yn Y Gwyll] yn fanteisiol iawn i ngyrfa i, cafodd [y rhaglen] ei werthu ar draws y byd, a ges i asiant yn yr Unol Daleithau ar ôl bod yn rhan ohono fe, felly mae wedi agor drysau."

Disgrifiad,

Hannah Daniel - gwaith, gyrfa a bod yn fam, sgwrs ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru

'Panig' am fod yn ddi-waith

Un elfen anodd o waith actor yw'r cyfnodau di-waith, ac mae'r teimlad o beidio â chael rheolaeth dros eich gyrfa yn gallu cael effaith negyddol, meddai Hannah.

"Os ti'n cael sbel o beidio bod mewn gwaith ti'n dechre cwestiynu a wyt ti'n gallu 'neud dy swydd, cwestiynu a ddylet fod wedi mynd mewn i swydd wahanol.

"Dwi'n meddwl mod i'n mynd yn waeth yr hyna' dwi'n mynd. Mae'r panig yn fwy a dyna un rheswm dwi wedi dechre sgwennu [yn ogystal ag actio].

"Fues i yn Los Angeles a chael profiad eitha' concentrated o'r byd clyweliadau, a'r pwysau sydd ar fenywod yn benodol ar sut i edrych. Wnes i ddechre teimlo'n hen fel actores, am y tro cynta' yn fy mywyd i," meddai'r actores 34 oed.

"Oedd fy asiant yn dweud wrtha' i am ddweud celwydd am fy oed i, beth o'n i'n gwisgo, rhywbeth oeddet ti byth yn teimlo yr un fath ym Mhrydain, ac yng Nghymru yn sicr, am ei fod mor gartrefol yng Nghymru mae'n siŵr.

"Mae cyfnodau anodd iawn lle ti'n poeni sut ti'n talu'r bil nesa', ond dwi'n mwynhau yn fawr.

"Bysen i byth yn stopio fe."

Hefyd o ddiddordeb: