Cyfradd achosion Covid wedi codi'n sylweddol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dr Dylan Jones: 'Anodd rhoi rheswm am gyfraddau uwch o Covid'

Mae cyfradd yr achosion o coronafeirws am bob 100,000 o bobl wedi codi'n sylweddol - bellach mae'r gyfradd yn 681.9 dros gyfnod o saith diwrnod. Roedd y gyfradd a nodwyd ddydd Iau yn 651.9.

Cafodd 11 marwolaeth cysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yn y 24 awr hyd at 09:00 ddydd Iau ac mae nifer yr achosion newydd yn 3,296.

Dywed cyn-gyfarwyddwr clefydau trosglwyddadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru na ddylid ailgyflwyno cyfyngiadau cyfnod clo i ddelio â phwysau'r gaeaf.

"Dim ond rhywfaint o fudd fyddai i hynny," meddai Dr Roland Salmon.

Yn hytrach rhaid dyblu'r ymdrechion i frechu y rhai sy'n wynebu'r risg mwyaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Roland Salmon nad yw'n gweld llawer o fudd mewn cyflwyno cyfyngiadau

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi dweud '"nad yw hi'n debygol" y bydd mwy o reolau Covid yn cael eu cyflwyno yng Nghymru cyn y Nadolig.

Dywedodd Dr Dylan Jones o Ysgol Wyddorau Meddygol Prifysgol Bangor ar raglen Dros Frecwast ei bod yn anodd gwybod pam bod cyfradd yr achosion wedi codi ond bod hi'n galonogol nad oes mwy o bobl yn marw neu'n sâl iawn yn yr ysbyty.

Ychwanegodd ei bod yn amlwg bod y brechlyn yn cael effaith.

"Does yna ddim un rheswm pam bod nifer yr achosion wedi cynyddu ond mae'n bosib nad yw pobl yn dilyn y rheolau mor fanwl a be ddylia nhw," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Blaenau Gwent sydd â'r gyfradd uchaf

Yn ôl dull Iechyd Cyhoeddus Cymru o gofnodi, mae'r cyfanswm marwolaethau bellach yn 6,074 ac mae cyfanswm yr achosion ers dechrau'r pandemig wedi codi i 415,829.

Mae'r gyfradd profion positif hefyd wedi codi i 22.9% - 0.8% yn uwch na ddoe.

Roedd tair o'r 11 farwolaeth newydd yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, dwy farwolaeth yr un yn ardaloedd byrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda ac un yr un yn ardaloedd byrddau iechyd Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro.

Yn y saith diwrnod sy'n arwain at 20 Hydref roedd ar gyfartaledd 7.8 marwolaeth o ganlyniad i Covid yng Nghymru.

Ymhlith yr achosion newydd mae 297 yn Abertawe, 260 yng Nghaerdydd, 252 yng Nghaerffili a 244 yn Rhondda Cynon Taf.

Mae cyfradd yr achosion ar ei huchaf ym Mlaenau Gwent (1,185.2), gyda Thorfaen yn ail (1,000.4) a Chaerffili yn drydydd (961.5).

Yn Sir y Fflint mae cyfradd yr achosion ar ei hisaf - 365.2.

Mae 322,591 o bobl bellach wedi cael brechlyn atgyfnerthu a 1,142 yn rhagor wedi cael y dos cyntaf sy'n codi'r cyfanswm i 2,421,700.

Yn ystod y cyfnod cofnodi diwethaf hefyd nodwyd bod 26,268 o brofion PCR wedi'u cynnal.