'Bydd dimensiwn Cymreig priodol i'r ymchwiliad Covid'
- Cyhoeddwyd
Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fod wedi cael sicrwydd gan Brif Weinidog San Steffan y bydd "dimensiwn Cymreig priodol" i ymchwiliad Covid y DU.
Mae'r gwrthbleidiau a nifer o grwpiau ymgyrchu wedi bod yn galw am ymchwiliad cyhoeddus ar wahân i Gymru.
Ond dywed Mark Drakeford fod San Steffan wedi cytuno y bydd "yr hyn a wnaeth Llywodraeth Cymru a phrofiadau pobl Cymru" yn cael eu harchwilio'n drylwyr gan ymchwiliad y DU.
Fe wnaeth Mr Drakeford gynnal trafodaethau gyda Boris Johnson a'r cenhedloedd datganoledig eraill ddydd Llun.
Mewn datganiad wedi'r trafodaethau, dywedodd llefarydd ar ran Boris Johnson: "Mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i ymchwiliad ar gyfer y DU i gyd ac fe fyddwn yn cysylltu â Gweinyddiaethau Datganoledig er mwyn sicrhau bod y budd mwyaf yn dod ohono wrth i ni ystyried y gwersi a ddysgwyd."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn neges ar Twitter nos Lun dywedodd Mark Drakeford: "Heddiw pwysleisiais i Brif Weinidog y DU bod angen iddo sicrhau bydd ymchwiliad y DU yn archwilio camau Llywodraeth Cymru a phrofiadau pobl Cymru yn iawn."
Ychwanegodd: "Cadarnhaodd [Boris Johnson] y bydd dimensiwn Cymreig priodol i'r ymchwiliad a soniodd am ei bwysigrwydd i'r DU cyfan."
Fe wnaeth Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, gyhoeddi ymchwiliad ar wahân fis diwethaf - fe fydd hwnna yn cael ei arwain gan farnwr ac yn cael ei gynnal "cyn gynted â phosib".
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi galw am ymchwiliad ar wahân i Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod unrhyw alwadau am ymchwiliad ar wahân ac yn dweud mai dim ond ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan a allai ddelio gyda "natur rhyngysylltiedig" y penderfyniadau.
Ym mis Mai fe gyhoeddodd Boris Johnson ei fod yn bwriadu cynnal ymchwiliad i'r pandemig yn ystod hanner cyntaf 2022.
Dywedodd wrth ASau bod oedi yn angenrheidiol er mwyn osgoi rhoi gormod o bwysau ar y GIG, ymgynghorwyr a'r llywodraeth gan fod risg y byddai mwy o achosion yn ystod gaeaf eleni.
Mae disgwyl cyhoeddiad am union natur yr ymchwiliad a rhan Cymru ynddo yn gynnar flwyddyn nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021
- Cyhoeddwyd24 Awst 2021