Mick McCarthy yn gadael ei rôl fel rheolwr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Mick McCarthyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Caerdydd wedi cadarnhau bod eu rheolwr Mick McCarthy wedi gadael y clwb.

Fe gollodd yr Adar Gleision eu wythfed gêm yn olynol ddydd Sadwrn wrth i Middlesbrough ennill o 2-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae McCarthy yn gadael gyda'r clwb yn y 20ain safle yn y Bencampwriaeth, un safle un uwch na'r safleoedd cwymp.

Roedd cyn-reolwr Gweriniaeth Iwerddon wedi bod wrth y llyw ers mis Ionawr.

Cadarnhaodd y clwb mewn datganiad yn fuan wedi'r gêm brynhawn Sadwrn bod McCarthy, 62, a'i gynorthwyydd Terry Connor wedi gadael.

Cyn-ymosodwr Cymru, Steve Morison ynghyd â Tom Ramasut fydd yn cymryd yr awenau wrth i gyfarwyddwyr y clwb ddechrau'r broses o benodi olynydd.