Bwrdd iechyd yn atal ymwelwyr ysbytai o achos Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
a&eFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae bwrdd iechyd y de-orllewin wedi penderfynu atal ymwelwyr ym mhob un o ysbytai'r ardal oherwydd niferoedd uchel o achosion Covid-19.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y byddai ymwelwyr yn cael trefniant ymlaen llaw mewn rhai achosion, megis diwedd oes ac ymweliadau critigol.

Mae gan Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro - y siroedd yn ardal y bwrdd iechyd - gyfraddau achos Covid uwch na 600 fesul 100,000 o bobl.

Roedd ymwelwyr eisoes wedi cael eu gwahardd o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Y mis diwethaf, gohiriodd Hywel Dda rai llawdriniaethau arferol yn sgil y cynnydd mewn achosion.

Gwaharddodd Cwm Taf Morgannwg ymwelwyr ym mis Medi, tra bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi canslo rhywfaint o lawdriniaethau a chyfyngu ymweliadau ysbyty yn sylweddol.

Dangosodd data diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y gyfradd achosion fesul 100,000 o bobl yn 699.7 dros y cyfnod saith diwrnod diweddaraf.

Sir Benfro oedd â'r gyfradd achosion uchaf o'r tair sir, 849.6 - y seithfed uchaf yng Nghymru.

Cyfradd achos Ceredigion oedd 638.3 a Sir Gaerfyrddin yn 623.

Dywedodd y bwrdd iechyd na fyddai trefniadau ymweld ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn cael eu heffeithio.

Ychwanegodd fod yn rhaid i bob ymwelydd o dan yr amgylchiadau cyfyngedig gynnal prawf llif unffordd cyn teithio i'r ysbyty.