Cyfradd achosion Covid wedi codi i'r lefel uchaf eto
- Cyhoeddwyd
Mae cyfraddau o'r coronafeirws yng Nghymru wedi cyrraedd record uchel newydd, yn ôl swyddogion iechyd.
Mae ffigyrau a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yn dangos cyfradd o 719.9 o achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl dros y saith niwrnod diwethaf.
Mae Blaenau Gwent wedi dangos y gyfradd uchaf, sef ychydig o dan 1,330 o achosion fesul 100,000.
Daw'r ffigyrau ar ôl i brif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, rybuddio y bydd rhaid i wleidyddion Cymru drafod mesurau llymach i atal cynnydd Covid-19.
Y nifer ddiweddaraf o achosion postif a adroddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw 5,228 rhwng bore Gwener a bore Llun.
Mae 31 marwolaeth arall gyda Covid-19 hefyd wedi'u cofnodi, gyda 6,117 o bobl yn marw gyda'r feirws ers dechrau'r pandemig yng Nghymru, yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd y corff iechyd oherwydd mater technegol, nid yw pob achos o Covid a adroddwyd yng Nghymru yn ystod y 72 awr ddiwethaf wedi cael ei nodi fel un "newydd" ac mae'n debygol y bu tua 8,000 o achosion newydd go iawn dros y cyfnod.
'Ffigyrau yn uchel'
Dywedodd Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth y BBC: "Mae'r ffigyrau yn uchel, ond mi oedden ni'n disgwyl iddyn nhw fod yn uchel ar ôl symud i lefel rhybudd sero, lle'r oedd pobl yn cymysgu fwy".
"Ry' ni'n gobeithio bod y ffigyrau yn awgrymu tipyn bach o wastadu, ac y gwelwn ni leihad cyn hir.
"Ond ar hyn o bryd, mae'n wir, mae'r ffigyrau'n uchel."
Ychwanegodd mai ymhlith pobl ifanc y mae'r lledaenu yn digwydd yn fwyaf ar hyn o bryd "oherwydd doedden nhw ddim wedi cael eu brechu pan symudon ni i lefel sero, ac maen nhw'n cymdeithasu yn fwy".
Pwysleisiodd Dr Davies ei fod yn bwysig ystyried yr ystadegau dros gyfnod o saith niwrnod yn hytrach nag o ddydd i ddydd yn unig.
"Rydym yn gweld newidiadau yn y nifer o brofion mae pobl yn eu cael, ac yn y ffordd mae pobl yn teimlo, efalle, am sut mae'r pandemig yn mynd a sut maen nhw'n ymateb i'r cyngor, felly mae'r newidiadau yn y lefelau yn ymwneud â sut mae'r gymdeithas yn ymateb i'r sefyllfa bresennol," meddai.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hymateb diweddaraf i'r pandemig ddydd Gwener, pan fydd yn cynnal adolygiad tair wythnos.
Yn yr adolygiad diwethaf, cyflwynwyd pasbortau Covid ar gyfer clybiau nos a digwyddiadau mawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2021