Diwedd cyfnod wrth i argraffdy olaf Caernarfon gau
- Cyhoeddwyd
Ers dros ganrif a hanner mae tref Caernarfon wedi bod yn hwb i'r wasg argraffu yng Nghymru.
Yn ystod y 19eg Ganrif bu'n ganolbwynt i newyddiadurwyr a phapurau newydd, gan fabwysiadu'r enw 'Tre'r Inc' neu 'Brifddinas yr Inc' wrth i weisg ac argraffwyr sefydlu yn y dref.
Er y traddodiad hir a chyfoethog mae penderfyniad diweddar un o weisg ola'r dref i ddod â'u cyfrifoldebau argraffu i ben yn golygu nad oes gan Gaernarfon wasg argraffu am y tro cyntaf ers degawdau maith.
Yn ôl Gwasg y Bwthyn sydd bellach dim ond yn cyhoeddi, y pandemig oedd "yr hoelen olaf yn yr arch".
'Ein gorfodi i newid'
Ar hyd y dref mae olion y diwydiant argraffu a newyddiadura dal i fod yn amlwg.
Yn swyddfa bresennol Cwmni Da yr oedd Tŷ Cyhoeddi yn bodoli rhwng 1877-1993, ac mae hen swyddfa'r Herald ar y maes dal i fod yn adnabyddus yn lleol.
Ond er i'r dref fod yn dyst i oes aur argraffu, yn enwedig rhwng 1860-1895, mae datblygiadau technolegol gan gynnwys argraffyddion mewn tai wedi golygu fod y diwydiant yn pylu.
Ers rhai blynyddoedd roedd Gwasg y Bwthyn yn ei gweld hi'n anodd argraffu rhai llyfrau, gyda phrisiau'n cynyddu.
Yn ôl y Golygydd Creadigol, Meinir Pierce Jones roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd pan darodd y pandemig.
"Mi aeth 'na lawer o gyhoeddiadau ar-lein a phobl yn argraffu eu hunain," meddai.
"Roedd 'na lai o ddefnydd o bapur ac fe gawsom ein gorfodi i newid."
Fel rhan o'r ail strwythuro a chau yr ochr argraffu bu'n rhaid "colli tair swydd a thair swydd ran-amser".
"Mi gollwyd swyddi ac mi oedd hynny'n dristwch," meddai.
"Mae bob amser yn ddigalon gweld traddodiad fu mor ffyniannus yn dod i ben, un a roddodd gymaint o waith i bobl yn y dre 'ma, a chysur i bobl oedd yn darllen."
Yn ôl Ms Pierce Jones, mae'r pandemig wedi bod yn fwy o her i argraffwyr bach.
Ers cau'r argraffdy mae hi'n dweud fod gwerthiant llyfrau yn parhau i fod yn galonogol a bod "rhestr ardderchog o awduron a chynlluniau cyffrous".
Mae'r sefyllfa ar hyn o bryd yn wahanol iawn i'r darlun yn ystod y 19eg Ganrif.
Yn ystod y cyfnod hwnnw fe ddaeth y dreth ar bapur newydd i ben, ac fe lwyddodd y traddodiad anghydffurfiol i hybu llythrennedd gan arwain at fwy o Gymry yn darllen ac yn mynnu papurau newydd.
Dros y blynyddoedd hyn felly fe ddaeth papurau fel Y Goleuad i fodolaeth.
Un sydd wedi bod yn olrhain yr hanes ydi Dr W Gwyn Lewis.
"Roedd papurau a chylchgronau mewn bri," meddai. "Yr Herald, Y Genhinen ac enwau mawr fel Morgan Humphreys a T Gwynn Jones.
"Ond bellach mae arferion pobl wedi newid ac mae hynny o bosib yn cyd-fynd â'r ffaith fod y wasg wedi cau ei hochr argraffu - mae cymaint o bethau ar-lein.
"Mae pobl wedi eu diswyddo oherwydd nad ydi'r angen yno fel ag yr oedd o."
Gyda mwy yn darllen deunydd ar-lein a nifer yn argraffu yn eu tai, mae'r datblygiadau technolegol hynny wedi lleihau'r angen am argraffwyr proffesiynol ac wedi cyfrannu at ddirywiad y wasg argraffu.
Er hyn mae gan Gaernarfon hanes cyfoethog o newyddiadura, gyda nifer o newyddiadurwyr a gohebwyr wedi magu gyrfa'n y dre yn swyddfeydd yr Herald.
Ond er fod tirlun y traddodiad wedi newid a phylu dros y degawdau, mae cyhoeddwyr yn ffyddiog fod yr awch gan bobl i ysgrifennu a darllen mor gryf ag erioed.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2021