Brwydro i ddal ati ar Stad Cibyn yn wyneb yr argyfwng
- Cyhoeddwyd
Ar gyrion Caernarfon mae stad ddiwydiannol Cibyn yn brysur, gyda dros 100 o fusnesau sydd oll yn ceisio gwneud eu gorau i osgoi sgîl-effeithiau coronafeirws.
Mae 'na saith wythnos ers i lywodraethau'r DU alw ar filoedd o fusnesau i gau neu newid eu trefniadau wrth geisio rhwystro lledaeniad y feirws.
Ar y stad, mae cwmnïau o bob maint yn masnachu a phob un yn ceisio eu gorau i gadw dau ben llinyn ynghyd; microcosm o'r hyn sy'n digwydd ar hyd a lled y wlad.
Pan adawodd Hywel Trewyn ei waith fel gohebydd i'r Daily Post a derbyn swydd fel rheolwr Gwasg y Bwthyn, go brin ei fod yn credu y byddai'r peiriannau argraffu yn dod i stop o fewn rhai misoedd.
"Da ni' di gorfod cau'r busnes i bob pwrpas", meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Mae pawb ar gynllun ffyrlo yma heblaw un, sy'n golygu fod 90% o'n busnes ni wedi cael ei effeithio.
"Does 'na'm gwaith yn dod mewn na'n mynd allan".
Yn ôl Mr Trewyn mae'r busnes wedi colli degau ar filoedd o bunnoedd o achos y feirws.
"Mae'r trosiant... does dim arian yn dod i mewn ac wrth gwrs mae hynna wedi taro ni'n fawr," meddai.
Er gwaetha'r pryder mae Mr Trewyn yn ffyddiog ac yn obeithiol y gall y wasg hanesyddol ddychwelyd i'r brig - ond fel sawl busnes arall - bydd angen cymorth arnynt.
Un arall o gwmnïau'r stad yw Theatr Bara Caws.
Maen nhw hefyd wedi gorfod cau eu drysau a does wybod pryd y byddan nhw'n ailagor.
Roedd y cwmni ar fin dechrau cynhyrchiad gyda'r bwriad o deithio ar hyd cymunedau Cymru. Roedd 'na baratoadau hefyd ar gyfer cynyrchiadau teithiol eraill am weddill y tymor.
Un peth sy'n sicr - fydd hynny ddim yn digwydd.
"Dwi ddim yn siŵr am be ddigwyddith os 'da ni'n gallu mynd nôl i'n gwaith ac os allwn ni fynd efo'n gilydd," meddai Linda Brown o'r cwmni.
"Lle bach sydd gynom ni ar y Cibyn".
"Mae tri o'n cwmni yn eistedd ac yn gweithio mewn un ystafell felly pwy a ŵyr".
"Allai ddim siarad dros gwmnïau eraill ond mae siŵr y bydda nhw mewn sefyllfa fel ni - da ni ddim yn gwybod."
O fyd y theatr i'r byd moduro, a gyda llai o geir ar y lonydd mae'r galw am waith cynnal a chadw ceir wedi crebachu.
Rhyw dair blynedd sydd 'na ers i James Caldwell agor ei fusnes JC Motors ar stad Cibyn, ac er ei fod wedi profi cyfnod llewyrchus mae o bellach yn poeni am oblygiadau'r feirws iddo fo a'i deulu.
"Does 'na'm ceir yn dod trwodd ac mae pawb yn aros adref," meddai. "Does 'na'm MOTs ac felly dwi ddim yn gallu neud y pre-MOTs.
"Os does 'na'm pres yn dod mewn i'r busnes allai ddim talu fi na'r bobl sy'n gweithio i fi. Dwi methu neud dim byd."
Mae gwraig Mr Caldwell yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd, ond mae hi hefyd yn byw gydag asthma sy'n cyfyngu'r hyn mae'n gallu ei wneud.
"Tydi hi ddim yn gallu gweithio lot a tydi hi ddim yn ennill llawer o bres os 'di hi ddim yn gweithio," meddai.
"Felly os dwi ddim yn gwneud pres - does 'na'm byd yn dod i'r tŷ".
"I fod yn onest, dwi efo tri o blant adre. Dwi jest ddim yn gwybod pryd eith pethau'n normal 'ŵan. Dwi ddim yn gwybod pryd mae hynny am ddigwydd".
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Yr hyn sy'n amlwg wrth grwydro ar hyd y stad ddiwydiannol hon yw'r ffaith nad yw'r feirws yn gwahaniaethu.
Mae cwmniau bach a mawr yn dioddef a'r un yw eu cri - maen nhw gyd eisiau ailafael ynddi cyn bo hir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2020
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020
- Cyhoeddwyd3 Mai 2020