Caerdydd i arwyddo Taulupe Faletau ar ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd
Taulupe FaletauFfynhonnell y llun, Bob Bradford - CameraSport
Disgrifiad o’r llun,

Mae Taulupe Faletau wedi chwarae 86 gwaith dros Gymru, gan sgorio wyth cais

Mae Rygbi Caerdydd wedi cadarnhau y bydd chwaraewr Cymru, Taulupe Faletau yn ymuno â'r rhanbarth ar ddiwedd y tymor.

Fe wnaeth Faletau symud o'r Dreigiau i Gaerfaddon yn 2016, ac mae wedi chwarae dros y clwb 64 o weithiau ers hynny.

Dywedodd yr wythwr mai parhau gyda'i yrfa rhyngwladol oedd un o'r prif resymau dros ddychwelyd i Gymru.

"Dwi'n gobeithio wrth chwarae'n dda i Gaerdydd y bydd modd i mi barhau i wneud hynny," meddai Faletau.

Roedd Faletau yn un o'r chwaraewyr oedd ddim yn gymwys i chwarae dros Gymru yn erbyn Seland Newydd y penwythnos diwethaf, gan nad yw clybiau o Loegr yn rhyddhau chwaraewyr i gemau rhyngwladol tu allan i'r ffenestr swyddogol.

Er nad oedd Faletau ar gael beth bynnag oherwydd anaf i'w bigwrn, bydd symud i Gaerdydd y tymor nesaf yn osgoi cael sefyllfa o'r fath yn codi yn y dyfodol.

Mae Rygbi Caerdydd eisoes wedi cadarnhau y bydd Cymro arall, Thomas Young, hefyd yn ymuno â'r rhanbarth ar ddiwedd y tymor o Wasps.

Bydd hynny'n golygu bod Young yn cael chwarae dros Gymru eto - doedd yr un cyfyngiad ddim yn bodoli i Faletau gan ei fod ef eisoes ymhell dros y trothwy o 60 cap ar gyfer cynrychioli Cymru tra'n chwarae i glwb tramor.