Dau yn yr ysbyty wedi digwyddiad ynghanol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson yn cael triniaeth yn yr ysbyty wedi ymosodiad honedig ynghanol Caerdydd nos Wener.
Fe ddaeth plismyn arfog i'r safle wedi adroddiadau o ffrwgwd a oedd yn cynnwys chwech o bobl ger marchnad Caerdydd ar Heol Eglwys Fair.
Cafodd dau berson eu cludo i'r ysbyty wedi iddynt gael eu trywanu ond ni chredir bod yr anafiadau yn rhai sy'n bygwth bywyd.
Mae dyn 19 oed o ardal Cathays wedi cael ei arestio ar amheuaeth o anafu yn fwriadol ac mae e'n parhau yn y ddalfa.
Dywed plismyn nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd.
Cafodd dau safle eu cau gan yr heddlu dros nos ar gyfer archwiliad fforensig.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jason Rees, o Heddlu De Cymru: "Fe arestiodd swyddogion un person yn fuan wedi'r digwyddiad. Yn ddealladwy mae digwyddiadau o'r fath yn gallu codi pryderon yn ein cymunedau.
"Mae delio â throseddau cysylltiedig â chyllyll yn flaenoriaeth i ni ac fe fydden yn hoffi clywed gan unrhyw un a all roi gwybodaeth i ni am y digwyddiad hwn."