Teyrnged i fab 'hardd ac annwyl' wedi ymosodiad ci Caerffili

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae mam y bachgen 10 oed a fu farw wedi i gi ymosod arno wedi rhoi teyrnged i'w mab "hardd" ac "annwyl".

Yn gynharach fe wnaeth Heddlu Gwent gadarnhau mai Jack Lis oedd enw'r bachgen a'i fod mewn tŷ ar stryd gerllaw ei gartref pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Mewn neges ar ei chyfrif Facebook ysgrifennodd Emma Whitfield: "Gyda chalon drom a chyn i ffrindiau agos a theulu glywed ei enw mae'n rhaid i mi gyhoeddi bod ein bachgen annwyl Jack wedi ei gymryd oddi arnom mewn ffordd echrydus.

"Nid ein ci ni oedd e ac fe wnaeth [yr ymosodiad] ddim digwydd yn ein cartref teuluol.

"Roedd e allan i chwarae. Ry'n yn dy garu gymaint - ein bachgen annwyl annwyl."

Roedd Jack yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Cwm Ifor a dywedodd y pennaeth Gareth Rees bod cymuned yr ysgol gyfan wedi "cael ei hysgwyd gan ddigwyddiadau erchyll y 24 awr ddiwethaf".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau wedi'u gadael ger y fan y bu farw Jack Lis

Cadarnhaodd llefarydd bod plismyn wedi'u galw i gyfeiriad ym Mhentwyn, Penyrheol, Caerffili toc cyn 16:00 wedi adroddiadau o ymosodiad gan gi.

Fe wnaeth plismyn, gan gynnwys swyddogion arfog, a pharafeddygon gyrraedd y safle a bu farw y bachgen 10 oed yn y fan a'r lle.

Dywedodd y Prif Arolygydd, Mark Hobrough: "Ry'n ni'n meddwl am deulu Jack, ynghyd â'i ffrindiau, ei ffrindiau ysgol a phob un arall sydd wedi cael ei effeithio yn y gymuned.

"Gallwn gadarnhau na ddigwyddodd yr ymosodiad yn y tŷ sy'n eiddo i deulu Jack ond mewn eiddo arall ar stryd gerllaw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae plismyn wedi cadarnhau bod y ci wedi cael ei ddifa gan swyddogion arbenigol ac nad oedd unrhyw anifail arall yn gysylltiedig â'r ymosodiad.

"Mae ymholiadau swyddogion yn parhau ac fe fyddwn yn parhau ar y safle wrth i'r ymchwiliad fynd yn ei flaen" ychwanegodd y Prif Arolygydd Hobrough.

"Bydd nifer o swyddogion yn ardal Caerffili wrth i'n hymchwiliadau barhau.

"Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth plîs stopiwch i siarad â ni."

Pynciau cysylltiedig