Galw am ymchwilio i gytundeb cwmni oedd yn cyflogi AS
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau wedi'u gwneud i ymchwilio i sut lwyddodd cwmni o Gymru, wnaeth gyflogi cyn-ysgrifennydd Cymru Alun Cairns fel ymgynghorydd, i sicrhau cytundeb gyda Llywodraeth y DU.
Daw'r alwad gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds yn dilyn adroddiadau fod cwmni BBI Group yn rhan o gonsortiwm wnaeth ennill cytundeb mawr ar gyfer darparu profion gwrthgyrff, fis ar ôl cyflogi Mr Cairns.
Roedd y consortiwm eisoes wedi sicrhau un cytundeb gyda'r llywodraeth cyn iddo gael ei gyflogi fel ymgynghorydd.
Mae Mr Cairns wedi cael cais am sylw.
Un o dri chwmni
Mae AS Bro Morgannwg wedi cyhoeddi yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol Aelodau'r Senedd fod ganddo'r swydd, ble mae'n datgan ei fod yn ennill £15,000 y flwyddyn am hyd at 70 awr o waith.
Mae BBI Group yn un o dri chwmni y mae Mr Cairns yn gweithio iddynt, yn ôl y gofrestr.
Mae rheolau'r Senedd yn gadael i ASau gael eu cyflogi mewn swyddi eraill, ynghyd â'u gwaith yn San Steffan.
Ond mae pryderon am hynny wedi cynyddu dros yr wythnosau diwethaf wedi i Lywodraeth y DU atal yr AS Owen Paterson rhag cael ei wahardd o'r Senedd am dorri rheolai lobïo, cyn gwneud tro pedol.
Mae Ms Dodds hefyd yn galw am wneud yn gyhoeddus unrhyw ohebiaeth yn ymwneud â dyfarnu'r cytundeb.
"Fe ddylai arian cyhoeddus wastad fynd i'r cwmnïau gorau, nid rheiny sydd â ffrindiau pwysig neu sy'n gallu fforddio talu AS Ceidwadol i gael mynediad," meddai.
"Mae angen ymchwiliad ar frys i sut y cafodd y cytundeb yma ei ddyfarnu, gan gynnwys cyhoeddi gohebiaeth rheiny fu'n rhan ohono."
Dim proses dendr
Cafodd Mr Cairns ei benodi yn uwch ymgynghorydd i fwrdd cwmni BBI Group, sydd wedi'i leoli yng Nghrymlyn, ar 1 Gorffennaf 2020.
Cyn penodiad Mr Cairns, ym mis Mehefin 2020 roedd BBI Group yn rhan o'r UK Rapid Test Consortium lwyddodd i ennill cytundeb gwerth £10m i ddatblygu prawf gwrthgyrff Covid.
Yna fe wnaeth Llywodraeth y DU ddyfarnu ail gytundeb i'r consortiwm ym mis Awst 2020 i ddarparu miliwn o brofion gwrthgyrff llif unffordd, gyda'r posibilrwydd o brynu mwy yn y dyfodol.
Cafodd y ddau gytundeb eu dyfarnu heb ddilyn proses dendr gystadleuol.
Yn ôl gweinidogion roedd hyn oherwydd y brys oedd ei angen er mwyn delio gyda'r pandemig.
Dim cymeradwyaeth i'r profion
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno fe wnaeth astudiaeth awgrymu nad oedd y profion mor gywir â'r hyn oedd yn cael ei gredu'n wreiddiol, ac ni wnaeth y rheoleiddiwr meddyginiaethau gymeradwyo'r profion ar gyfer defnydd domestig.
Mae'r Good Law Project wedi cael caniatâd i geisio sicrhau adolygiad barnwrol i'r ffordd y cafodd cytundebau eu dyfarnu.
Mae Mr Cairns yn un o ychydig ddwsinau o Aelodau Seneddol sy'n datgan ar y gofrestr buddiannau eu bod yn cael eu cyflogi fel ymgynghorwyr.
Yn ogystal â BBI Group, mae hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd i:
Veezu Holdings - cwmni tacsi preifat yng Nghasnewydd. Mae'n derbyn £15,000 y flwyddyn am hyd at 70 awr o waith.
Elite Partners Capital Pte Ltd - cwmni eiddo byd-eang sydd wedi'i leoli yn Singapore. Mae'n derbyn £30,000 y flwyddyn am hyd at 84 awr o waith.
Mae Mr Cairns yn datgan ei fod wedi trafod y swyddi hynny gydag ACOBA - y corff sy'n cynghori cyn-weinidogion os ydy'r swyddi maen nhw'n eu cymryd ar ôl gadael y llywodraeth yn cydymffurfio â "rheolau penodiadau busnes".
Mae cyngor ACOBA i Mr Cairns ynglŷn â'i swydd gyda BBI Group yn datgan fod "risg y gallai eich cysylltiadau roi mantais annheg" i'r cwmni.
Mae ACOBA felly yn rhoi amodau ar y gwaith y gall Mr Cairns ei wneud i'r cwmni "er mwyn ei gwneud yn glir y byddai'n amhriodol i ddefnyddio'r cysylltiadau y gwnaethoch chi yn y llywodraeth/Whitehall i roi mantais annheg i BBI Group; neu i'w cynghori ynglŷn ag unrhyw gais am gytundeb gyda Llywodraeth y DU".
Does dim tystiolaeth fod Mr Cairns wedi bod yn rhan o ddyfarnu'r cytundeb i'r consortiwm.
Mae BBI Group wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.
Fe wnaeth Mr Cairns ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cymru yn 2019 yn dilyn honiadau - yr oedd Mr Cairns yn eu gwadu - ei fod yn gwybod am rôl cyn-aelod o'i staff yn dymchwel achos treisio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2020
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2019