Taliad 'iawndal' i Alun Cairns ar ôl ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Alun Cairns AS dderbyn "iawndal" o £16,876 gan Lywodraeth y DU wedi iddo ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ei ran fod hyn yn beth cyffredin "gydag ymadawiad pob gweinidog".
Fe ymddiswyddodd Mr Cairns ym mis Tachwedd y llynedd oherwydd ei gysylltiadau gydag ymgeisydd Ceidwadol gafodd ei gyhuddo o ddymchwel achos llys treisio.
Roedd Mr Cairns wedi dweud ei fod yn ymwybodol o gwymp yr achos, ond nad oedd yn gwybod y manylion am rôl Ross England tan yn ddiweddarach.
Dywed adroddiad cyfrifon blynyddol y Swyddfa Gymreig fod cyflog gweinidogol Mr Cairns am 2019-20 yn £57,379, oedd yn cynnwys "taliad digolledu" o £16,876.
Mae'r cyflog llawn ar gyfer y swydd, sef y cyflog a roddwyd i Mr Cairns yn 2018-19 yn £67,505. Mae gan weinidogion y llywodraeth hawl i'r arian yma yn ychwanegol i'w cyflogau fel aelodau seneddol.
O 1 Ebrill 2019, cyflog sylfaenol aelod seneddol ydy £79,468 gyda threuliau yn ychwanegol.
Dywedodd llefarydd ar ran Mr Cairns fod y taliad iawndal yn dilyn ei ymddiswyddiad "yn gyffredin yn ystod ymadawiad pob Gweinidog o Lywodraeth Cymru neu'r DU ac mae wedi bodoli am ddegawdau o gyfnod Rhodri Morgan i Peter Hain".
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r Swyddfa Gymreig am ymateb.
Achos llys
Ym mis Ebrill 2018 cafodd Ross England ei gyhuddo gan farnwr Uchel Lys o fynd ati'n fwriadol i ddymchwel achos llys lle'r oedd cyfaill yn sefyll ei brawf yn Ebrill 2018, trwy wneud honiadau ynghylch hanes rhywiol y dioddefwr.
Nid oedd hawl ganddo rannu'r manylion yma yn y llys.
Ond gwadodd Mr England ei fod yn ymwybodol o hynny pan roddodd dystiolaeth.
Arweiniodd y ffrae at ymddiswyddiad AS Bro Morgannwg, Alun Cairns, fel Ysgrifennydd Cymru yn dilyn honiadau ei fod yn ymwybodol o rôl Mr England yn yr achos llys.
Cafodd Mr Cairns ei ail-ethol fel AS Bro Morgannwg yn etholiad cyffredinol 2019, ac wedi hynny penderfynwyd na wnaeth dorri'r cod gweinidogol.
Cafodd Ross England ei ddewis i sefyll fel ymgeisydd i'r Ceidwadwyr Cymreig ym Mro Morgannwg yn etholiad Cynulliad 2021.
Yn ystod y cyfnod pan gafod ei enwebu, roedd Mr Cairns wedi cefnogi ei gais gan ei alw'n "ffrind a chydweithiwr" ac y byddai'n "bleser ymgyrchu" gydag o.
Roedd wedi gwadu iddo wybod unrhyw beth am rôl Mr England yng nghwymp yr achos llys, ond fe welodd BBC Cymru oedd wedi ei anfon iddo ym mis Awst 2018 oedd yn cyfeirio at y mater.
Cafodd Mr England ei ddiarddel fel ymgeisydd i'r blaid ac fel gweithiwr yn dilyn rhyddhau'r wybodaeth am yr achos llys, gyda'r blaid yn dweud y byddai ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal.
Ymchwiliad
Daeth ymchwiliad diweddarach i'r mater gan Swyddfa'r Cabinet dan ofal Syr Alex Allan i'r casgliad ei fod yn "annhebygol" nad oedd Mr Cairns wedi cael gwybod am rôl Mr England, ond nad oedd tystiolaeth i brofi hynny ac felly nad oedd wedi torri'r cod gweinidogol.
Dywedodd y dioddefwr yn yr achos llys gafodd ei ddymchwel wrth BBC Cymru yn dilyn yr ymchwiliad ei bod yn "siomedig ond ddim wedi synnu" gan gasgliad yr ymchwiliad hwnnw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2019