Llifogydd cyson ar dir ffermwyr ym Môn yn 'annioddefol'

  • Cyhoeddwyd
Malltraeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae glaw trwm yr wythnos ddiwethaf wedi effeithio unwaith eto ar y tir

Mae ffermwyr yn Ynys Môn yn dweud eu bod wedi cael llond bol, gan fod rhannau o'u tir rhwng cors Malltraeth a Llangefni yn llynnoedd o ddŵr yn aml ar ôl tywydd garw.

Tan yn ddiweddar, meddai'r ffermwyr, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn arfer clirio'r ffosydd a glanhau'r afonydd ynghynt yn y tymor.

Gyda glaw trwm yr wythnos ddiwethaf wedi effeithio unwaith eto ar y tir, mae'r ffermwyr yn dweud mai digon yw digon, a bod y sefyllfa bellach yn cael effaith ar eu bywoliaeth.

Dywedodd CNC eu bod yn blaenoriaethu "amddiffyn pobl a'u heiddo", ac nad yw'r tir amaethyddol felly ar frig y rhestr.

Alaw Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alaw Jones fod cynnal y gwaith ar yr adeg yma o'r flwyddyn "lot yn rhy hwyr"

Yn ôl Alaw Jones o Undeb Amaethwyr Cymru, mae'r sefyllfa "lawer iawn gwaeth eleni".

"Dwi'n meddwl mai'r prif ffactor eleni ydy'r diffyg cydweithrediad gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a'u bod nhw heb gychwyn y gwaith cynnal a chadw yn gynt yn y flwyddyn," meddai wrth Dros Frecwast.

"'Da ni ar ddeall eu bod nhw wedi cychwyn y gwaith dau ddiwrnod yn ôl, ond mae hynny lot yn rhy hwyr i lawer o'r tir."

Ychwanegodd fod y problemau yn bennaf oherwydd bod bylchau wedi'u gwneud yn arglawdd Afon Ceint yn ystod llifogydd yn 2017.

"Yn anffodus does gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddim yr arian gan y llywodraeth i allu trwsio'r bylchau yma felly mae'r dŵr yn llifo ar hyd y tir amaethyddol," meddai.

Huw Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Roberts fod ymateb CNC yn awgrymu nad oes ots am ffermwyr a'u bywoliaeth

Dywedodd Huw Roberts, sy'n ffermio yn Llangaffo gerllaw, fod y sefyllfa "bendant yn mynd yn waeth".

"Mae'r sefyllfa yn annioddefol a dweud y gwir. Mae hi wedi mynd yn wlypach bob blwyddyn, a does 'na ddim cynnal a chadw," meddai.

"Dim jest rŵan, ond yn yr haf mae hi'n touch and go i 'neud silwair arno fo.

"Bob tro 'da chi'n sôn am y peth maen nhw'n deud nad oes ganddyn nhw'r pres - y byddai hi'n costio rhyw £300,000 i drwsio'r arglawdd sydd wedi torri."

Ychwanegodd fod ymateb CNC "cyn gystal â dweud 'na dio'm llawer o wahaniaeth amdanom ni fel amaethwyr a'n bywoliaeth ni".

Malltraeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhannau o'r tir rhwng cors Malltraeth a Llangefni yn llynnoedd o ddŵr yn aml ar ôl tywydd garw

Dywedodd Dylan Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru bod eu gwaith i leihau'r risg o lifogydd, yn ôl cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, yn cael ei flaenoriaethu i "amddiffyn pobl a'u heiddo".

"Ni allwn flaenoriaethu gwella arglawdd Afon Ceint, sydd gan fwyaf yn amddiffyn tir amaethyddol, dros ddiogelu'r cymunedau sydd sy'n wynebu'r peryglon mwyaf," meddai.

"Wrth i ni ystyried opsiynau i leihau'r perygl o lifogydd yn Llangefni, bydd arglawdd Cefni yn cael ei ystyried yn llawn."

Pynciau cysylltiedig