Glaw yn 'cael y gorau' ar gynllun llifogydd Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Fe ddisgynnodd cymaint o law ar Ynys Môn nos Fercher fel nad oedd modd gweithredu'r cynllun atal llifogydd, yn ôl prif weithredwr y cyngor.
Mae'r gwaith clirio'n parhau wedi i law trwm achosi difrod a thirlithriadau, gyda nifer o ffyrdd ynghau yng Ngwynedd a Môn.
Cafodd gwasanaeth tân y gogledd dros 250 o alwadau yn ymwneud â'r llifogydd dros nos, a rhybuddiodd Heddlu'r Gogledd bobl i gymryd gofal ar y ffyrdd.
Bydd dwy ysgol ynghau ddydd Iau oherwydd y llifogydd - Ysgol Gynradd Amlwch ar Ynys Môn, ac Ysgol Pont y Gof, Botwnnog ym Mhen Llŷn.
Bydd Ysgol Pont y Gof ynghau eto ddydd Gwener oherwydd difrod gafodd ei achosi gan y llifogydd.
Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore dydd Iau, dywedodd Dr Gwynne Jones, prif weithredwr Cyngor Môn fod y sefyllfa nos Fercher yn ddifrifol.
"Mi oedd cymaint o ddŵr wedi syrthio mewn byr amser ddoe, roedd o wedi cael y gorau i ddweud y gwir o'r cynllun atal llifogydd yr ydan ni eisoes wedi ei roi yn ei le mewn llefydd megis Biwmares," meddai.
"Mae'n debyg mai dyma sydd wedi cael dylanwad ar be' sydd wedi digwydd yn ystod y nos neithiwr. "
Ymysg y ffyrdd oedd ynghau ar yr ynys oedd yr A5 rhwng Llangefni a Gaerwen, a Phont Britannia i'r ddau gyfeiriad.
Fe wnaeth tirlithriad achosi rhwystr ar Ffordd Biwmares ger Glyn Garth, ac roedd llifogydd yn golygu nad oedd modd teithio ar yr A55 rhwng Llangefni a Llanfairpwll, yr A5025 ym Mhentraeth, a stryd fawr Brynsiencyn.
Mae'r ffyrdd sydd yn parhau ar gau yn cynnwys yr A5 ger Pentre Berw, a'r A4080 yn Rhosneigr.
Mae ffyrdd y B5109 rhwng Biwmares a Llangoed, a'r B5108 ym Mrynteg bellach wedi ailagor gyda goleuadau traffig.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Erchyll'
Hefyd ar raglen y Post Cyntaf bu'r cynghorydd ar Gyngor Môn, Nicola Roberts, sy'n byw yn Llangefni, yn disgrifio'r sefyllfa: "Roedd hi'n erchyll yma. Dwi'n meddwl bod Llangefni a Borth 'di chymryd hi'n galad iawn.
"Mae'n dorcalonnus i berchnogion tai a pherchnogion busnes. Mae eu siopau a'u cartrefi nhw wedi cael eu dinistrio."
Diolchodd i'r gwasanaethau am eu hymateb: "Oedden nhw'n ymateb cystal ag yr oedden nhw'n medru, efo pobl yn cael eu hel allan i bob cyfeiriad.
"'Dan ni'n ddiolchgar iawn i'r gweithwyr i gyd ac hefyd i weithwyr y gwasanaethau brys, oedd yn gweithio mewn safon ofnadwy.
"Roedd hi'n dywydd garw iawn, a dwi'n meddwl bod pobl angen sylweddoli pa mor ddrwg oedd hi."
Mae cwmni Irish Ferries wedi canslo rhai gwasanaethau o Gaergybi a Doc Penfro, gan annog teithwyr i gysylltu â nhw cyn teithio i'r porthladd.
Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru 14 rhybudd 'Byddwch yn barod', dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017