Ateb y Galw: Y darlithydd Peredur Glyn Webb-Davies

  • Cyhoeddwyd
Peredur Glyn Webb-DaviesFfynhonnell y llun, Peredur Glyn Webb-Davies

Peredur Glyn Webb-Davies sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Sarah Cooper yr wythnos diwethaf.

Fe'i fagwyd yng nghanol Sir Fôn, gan fynd i ysgolion Bodffordd a Llangefni, cyn mynd i'r brifysgol yng Nghaergrawnt.

Bellach mae'n byw ym Mhorthaethwy efo'i wraig Kelly a mab o'r enw Brython. Mae'n darlithio mewn ieithyddiaeth a dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor yn llawn amser, ond hefyd yn awdur yn ei amser rhydd.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Yr hyn sy'n sticio yn fy meddwl ydi crïo ar fy niwrnod cyntaf yn yr ysgol gynradd, a Dad yn gafael ynof fi yn yr ystafell ddosbarth.

Does gen i ddim atgof clir sy'n gynharach na honno, ond mi wnaeth fy rhieni gadw llwyth o fideos (di-sain) a ffotograffau ohonom ni'n tyfu fyny, felly i ryw raddau mae hynny wedi llenwi'r bylchau yn fy nghof!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ffynhonnell y llun, Geograph / Gordon Hatton
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib cerdded o Borthaethwy ar hyd sarn i Ynys Tysilio

Anodd dewis, ond hwyrach Ynys Tysilio, sydd bron â bod yn sownd at y traeth ym Mhorthaethwy.

Mae'n le braf a heddychlon i fynd am dro efo'r teulu ac mae modd gweld y ddwy bont at y tir mawr wrth sefyll ar dop y bryn wrth y gofgolofn.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn 'neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

MC-io cyngherddau blynyddol y côr yng Nghapel Disgwylfa Gaerwen, yn flynyddol tan y pandemig.

Cael cyfle i ymarfer tuag at yr yrfa stand-yp na fyddwn i fyth yn ddigon dewr i'w wneud mewn gwirionedd, a chael hwyl efo'r cyd-gantorion a'r gynulleidfa.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gormod i ddewis ohonyn nhw!

Dwi'n cofio pan o'n i'n canu'r corn Ffrengig yn un o gerddorfeydd y brifysgol mewn cyngerdd, ac mi oedd gen i unawd fwy neu lai ar fy mhen fy hun reit ar ddechrau un o'r darnau, oedd yn agor y cyngerdd os y cofiaf yn iawn (yr agorawd i Hansel a Gretel gan Humperdinck oedd y darn).

Mae'n alaw syml a oedd wedi mynd yn iawn ym mhob ymarfer, ond roeddwn i wedi cam-diwnio'r offeryn ar gam cyn dechrau'r cyngerdd, ac felly mi ddaeth bron pob un nodyn allan yn gwbl anghywir yn y foment dyngedfennol, gan greu sain fel hyrdi-gyrdi mewn car crusher.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Trïo gwneud popeth.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Mae gen i lun y tynnais i o fy mab tua munud ar ôl iddo fo gael ei eni, yn crïo yn y stafell enedigaeth.

Roedd ei lygaid ar gau yn llun ac roedd golau llachar uwch ei ben.

Dwi'n cofio, ar ôl tynnu'r llun, dal fy llaw uwch ei ben er mwyn ei gysgodi o rhag y golau, ac yna mi agorodd ei lygaid a sbïo arnaf i, a thawelu.

Ffynhonnell y llun, Peredur Glyn Webb-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Brython yn fabi

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi ddim yn crïo'n aml, ond pan mae'r gwaith yn mynd yn anodd weithiau mae'r dagrau'n dod am dipyn.

Wrth lwc mae gen i gefnogaeth fy nheulu a'm ffrindiau yn hynny o beth.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Prynu llyfrau neu gemau fideo nad ydw i'n eu cwblhau!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Y llyfr gafodd y mwyaf o argraff arnaf i oedd The Lord of the Rings, sydd ddim yn ateb dychmygus iawn, ond dwi'n hapus i alw fy hun yn hipster gan mod i wedi ei ddarllen yn y 90au cyn iddi ddod yn 'dderbyniol' i wneud hynny.

Mae'n stori dda ac iddi lot o uchafbwyntiau epig, ond mi arweiniodd at fy niddordeb i mewn hen chwedloniaeth ganoloesol ac hen ieithoedd, oedd yn ffocws fy ngradd gyntaf ac yn rhan sylweddol o'r hyn dwi'n ei wneud fel swydd rŵan.

Dwi hefyd wedi cael fy nylanwadu lot gan y podlediad/ffrydiad gwe Critical Role, sydd yn grŵp o actorion o America yn chwarae'r gêm chwarae rôl Dungeons & Dragons.

Mae'n oriau ac oriau o bobl yn cydweithio er mwyn dweud stori ffantasi (sydd yn dra gwirion fel rheol), ac mi arweiniodd at gemau chwarae rôl yn dod yn hobi mawr gen i hefyd. Dwi'n rhedeg sawl campaign D&D i wahanol grwpiau o bobl ar hyn o bryd!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n medru llefaru'r gerdd The Ravengan Edgar Allan Poe ar fy nghof.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Chwarae gêm o gardiau. Cael peint o gwrw go iawn. Llunio englyn. Treulio amser efo fy nheulu.

Ffynhonnell y llun, Peredur Glyn Webb-Davies

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Fy nhaid, T. Glynne Davies, a fu farw pan oeddwn i tua saith oed.

Neu unrhyw un o'r teulu o'r dyddiau gynt, mewn gwirionedd, er mwyn i mi weld pa mor debyg ydyn nhw i'w disgynyddion.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Unrhyw un sydd efo golwg berffaith (heb sbectol), fel mod i'n medru gweld y byd yn eglur am ddiwrnod!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y dêt cyntaf gefais i a Kelly, ar nos Galan 2009/10.

Aethon ni allan efo ffrindiau i gael bwyd ac wedyn i'r dafarn. Noson syml ond un a newidiodd fy mywyd.

Ffynhonnell y llun, Peredur Glyn Webb-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Peredur a Kelly

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Owain Wyn Jones

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw