Ateb y Galw: Y cyflwynydd Ameer Davies-Rana
- Cyhoeddwyd
Y cyflwynydd Ameer Davies-Rana sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Jason Edwards yr wythnos diwethaf.
Mae Ameer i'w weld a'i glywed ar S4C, BBC Radio Cymru ac ar amryw sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd yn cynnal sgyrsiau mewn ysgolion a phrifysgolion i hyrwyddo'r Gymraeg.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Eistedd yn yr ardd gyda fy mam-gu yn bwyta pys gwyrdd ar ein ffarm ni nôl yn Llwyn Bwch, Llansadwrn.
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
Zoey 101 o raglen Nickelodeon. Oedd hyd yn oed cynllun gyda fi i fynd allan i America i drial priodi hi. Bach fel y ffilm Borat pan mae fe'n trial ffeindio Pamela Anderson!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Abertawe. Dwi'n hoff iawn o'r cymysgedd o ganol y ddinas, y dociau SA1, y traeth hyd at y Mwmbwls, y Gŵyr ac mae'n ddigon agos i adre!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
HOFFI BWYTA BWYD.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Drake - God's Plan. Mae'n 'neud i fi deimlo'n hapus ac yn ddiolchgar am fywyd.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Wythnos diwethaf wrth dderbyn newyddion fy mod i wedi llwyddo i gael rhan mawr yn cyflwyno sioe arbennig y flwyddyn yma.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ges i gyfle i fynd am bryd o fwyd gyda chast y gyfres Decline and Fall yng nghwmni Jack Whitehall, Eva Longoria, David Suchet a mwy!
Ond o'n i rhy swil i fynd ar ben fy hun felly wedes i bod fi methu oherwydd oedd plans gyda fi i fynd i'r gym a chael KFC ar ôl hynny... Edrych nôl, falle bydde hwnna wedi agor drws i fyd teledu yn gynharach!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Es i mas un noson Wener i Fryste ac yna trwy gydol yr holl benwythnos wnes i hefyd bennu lan yng Nghaerdydd, Llandeilo a Rhydaman... hynny i gyd o fewn 24 awr!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bwyta pryd mawr cyn gwely. Dim siawns o hynny newid yn y dyfodol chwaith!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Deifio mewn i'r môr peth cynta bore, naid bynji, nofio gyda siarcod, dreifio supercar cyflym, skydive allan o awyren ac yna pryd o fwyd wedi'i goginio gan Gordon Ramsay.
O archif Ateb y Galw:
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi wedi cael llond rhestr o anifeiliaid exotic fel anifeiliaid anwes e.e parots, terrapins, water dragon a hyd yn oed scorpion.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Kanye West.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Star Wars. Dwi wedi bod yn obsessed ers blentyn yn casglu'r lego, lightsabers, gemau a gwisgo lan fel y cymeriadau.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Dwayne 'The Rock' Johnson achos bydde fe'n rhoi lot o ysbrydoliaeth i fi weithio'n galed o fewn y byd teledu.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
REIT 'DE... Cregyn gleision gyda garlleg a saws gwin gwyn. Surf & turf crand gyda cimwch a stêc T-bone, loaded fries a llysiau. Cacen 3-tier o siocled gyda hufen.
Pwy wyt ti'n ei enwebu?
Heledd Roberts