Gibraltar dan-21 0-7 Cymru dan-21
- Cyhoeddwyd
![Luke Jephcott yn dathlu ar ôl sgorio dros Gymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15F11/production/_121537898_2021-11-12gibraltaru21vcymruu21-2021uefau21euroqualifyinground-35.jpg)
Luke Jephcott yn dathlu ar ôl sgorio dros Gymru
Roedd y goliau yn llifo yn Gibraltar nos Wener wrth i dîm dan-21 Cymru chwarae tîm dan-21 Gibraltar yng ngemau rhagbrofol Euro 2023.
Dyma oedd buddugoliaeth fwyaf Cymru ar y lefel dan-21.
Roedd 'na saith gôl i Gymru, y gyntaf ar ôl 13 munud o droed dde Owen Beck.
Ymhen tair munud roedd Joe Adams wedi sgorio'r ail o'r smotyn, a fe a sgoriodd y bedwaredd gôl yn nechrau'r ail hanner.
Ar ôl hanner awr roedd Cymru wedi sgorio y drydedd gôl - Luke Jephcott oedd y sgoriwr bryd hynny.
Roedd dwy gôl arall o ergyd troed dde Daniel Williams ac yna Terry Taylor.
Ond o beniad y daeth y seithfed gôl - Ryan Astley rwydodd y gôl honno ar ôl 88 munud o chwarae.
Mae Cymru bellach yn bedwerydd yn eu grŵp gyda saith pwynt o bum gêm.