Rhagbrofol Cwpan y Byd 2022: Cymru 5-1 Belarws

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale wedi gôl Neco WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images

Ar noson canfed cap rhyngwladol Gareth Bale, fe wnaeth Cymru sicrhau triphwynt gwerthfawr trwy guro Belarws 5-1 yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.

O ganlyniad dwy gôl gan Aaron Ramsey, gôl ryngwladol gyntaf Ben Davies ac un yr un gan Neco Williams a Connor Roberts, mae Cymru wedi codi uwchben y Weriniaeth Tsiec i ail safle Grŵp E.

Chwaraeodd Bale hanner cyntaf y gêm wedi i anaf ei gadw o'r gêm am ddeufis, cyn i Ramsey gymryd drosodd fel capten wedi'r egwyl.

Roedd Cymru eisoes yn sicr o le yn y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd Qatar 2022 ar ôl ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd ac wedi i Sbaen drechu Groeg nos Iau.

Aeth Cymru ar y blaen lai na dau funud wedi'r gic gyntaf ac yn sgil cic gornel gyntaf y gêm.

Methodd y golwr, Sergei Chernik â dal gafael ar y bêl wedi foli o ymyl y cwrt gan Ben Davies. Fe laniodd y bêl o flaen Ramsey, oedd wedi amseru ei rediad yn gampus, a mater hawdd oedd ei gosod yng nghefn y rhwyd.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd yna gyfle i Connor Roberts o dafliad hir gan Bale tua'r postyn cefn ond ychydig heibio'r postyn aeth ei ergydiad.

Dyblodd Neco Williams y fantais wedi 19 o funudau gan sgorio ei ail gôl ryngwladol. Joe Allen wnaeth ddechrau'r symudiad cyn i Bale fwydo pas at Williams yng ngornel chwith y cwrt.

Er nad oedd ergydiad droed dde amddiffynnwr Lerpwl yn un bwerus roedd y golwr unwaith eto ar fai wrth fethu ag atal y bêl rhag fynd dros y llinell.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd yna enghreifftiau o basio llac gan Gymru ar brydiau wedi hynny, a roddodd rhywfaint o feddiant i chwaraewyr Belarws cyn diwedd yr hanner cyntaf.

Brennan Johnson ddaeth i'r maes yn lle Bale ar gyfer yr ail hanner, ac o fewn pum munud roedd y dyfarnwr wedi rhoi cic o'r smotyn i Gymru wedi achos o lawio'r bêl yn y cwrt cosbi.

Sgoriodd Ramsey'n hawdd o'r smotyn i estyn y fantais i 3-0.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Aaron Ramsey ddwywaith cyn gadael y maes

Gwelodd Ethan Ampadu gerdyn melyn am daro chwaraewr gyda'i ben-elin wrth godi am y bêl, sy'n golygu na fydd ar gael i wynebu Gwlad Belg nos Fawrth.

Gyda Ramsey, Allen a Harry Wilson hefyd ar gardyn melyn cyn gêm nos Sadwrn, roedd i'w ddisgwyl y byddai o leiaf un yn gadael y maes cyn diwedd y gêm. Daeth Joe Morrell ymlaen yn lle Ramsey wedi 70 o funudau.

Ffynhonnell y llun, CBDC

Er bod y fuddugoliaeth yn ymweld yn sicr, doedd gwaith Cymru ddim ar ben, gyda gwahaniaeth goliau'n allweddol yn y frwydr i ragori ar y Weriniaeth Tsiec yn y grŵp.

Am noson felly i Ben Davies sgorio'i gôl gyntaf i Gymru mewn 68 o ymddangosiadau, ac yntau'n gwigo rhwymyn y capten wedi ymadawiad Ramsey. Cododd yng nghanol y cwrt gyda sawl amddiffynnwr Belarws o'i gwmpas i gysylltu â chic gornel Harry Wilson, ac fe darodd y bêl ei ysgwydd a gwyro i'r rhwyd.

Roedd yn foment i'w drysori i'r tîm ac i'r cefnogwyr - fel yr oedd y teyrnged i'r cyn-reolwr Gary Speed yn y 85fed munud, i nodi union 10 mlynedd ers buddugoliaeth olaf Cymru gyda Speed wrth y llyw, 15 diwrnod cyn ei farwolaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Connor Roberts yn sgorio gôl olaf y gêm

Tawelodd y dorf funud wedi hynny pan lwyddodd Belarws i daro'n ôl yn annisgwyl gyda symudiad a ddechreuodd yn eu cwrt eu hunain. Sgoriodd Artem Kontsevoi gydag ergyd droed dde wych o 25 llath a grymanodd cyn syrthio tu ôl i Danny Ward.

Ond o fewn munud roedd y bwlch wedi ei adfer pan gysylltodd Connor Roberts â chic rydd Harry Wilson i rwydo.

5-1 felly oedd y sgôr terfynol, ar noson pan enillodd Gwlad Belg y grŵp ar ôl curo Estonia 3-1.