Cymru yn sicr o'u lle yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Pablo Sarabia (ch) yn dathlu sgorio cic o'r smotyn i SbaenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pablo Sarabia (ch) sgoriodd gic o'r smotyn i sicrhau buddugoliaeth Sbaen yn erbyn Groeg

Mae Cymru wedi sicrhau lle yn y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd Qatar 2022 ar ôl i Sbaen drechu Groeg 1-0 nos Iau.

Fe wnaeth Cymru ddechrau eu hymgyrch ragbrofol yn gwybod eu bod bron yn siŵr o gael lle yn y gemau ail gyfle ar ôl ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Mae buddugoliaeth Sbaen yn Athen yn sicrhau hynny, hyd yn oed petai Cymru ddim yn llwyddo i orffen yn yr ail safle yn y grŵp rhagbrofol.

Ond er mwyn cael y cyfle gorau bydd Cymru'n gobeithio gorffen o leiaf yn ail yn y grŵp cyn y gemau ail gyfle fis Mawrth.

Fe fydd Cymru yn wynebu Belarws nos Sadwrn yng Nghaerdydd ac yna Gwlad Belg nos Fawrth.

Pedwar pwynt

Byddai gorffen yn yr ail safle yn sicrhau gêm haws i Gymru yn y gemau ail gyfle, ac yn cynyddu'r tebygolrwydd o gael gêm gartref hefyd.

Gall Cymru sicrhau'r ail safle gyda phedwar pwynt o'r ddwy gêm olaf.

Yn dechnegol, fe all Cymru ennill y grŵp ond mae hynny yn ddibynnol ar Wlad Belg, sydd ar y brig ar hyn o bryd, yn colli eu gemau yn erbyn Estonia a Chymru.

Petai Cymru yn curo Belarus a cholli i Wlad Belg, a'r Weriniaeth Siec yn curo Estonia, fe fyddai'r ail safle yn ddibynnol ar wahaniaeth goliau, gyda'r Weriniaeth Siec ddwy gôl yn well na Chymru ar hyn o bryd.

Dydy Cymru heb chwarae ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd ers 1958 - pan wnaethon nhw gyrraedd yno drwy'r gemau ail gyfle.